Mark Drakeford a Boris Johnson heb siarad 'ers misoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae "misoedd wedi mynd" ers sgwrs ddiwethaf Mark Drakeford a Boris Johnson, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Yn siarad ar Radio Cymru, dywedodd Mr Drakeford bod cyfarfodydd gyda Phrif Weinidog y DU "bron wedi diflannu".
Roedd hefyd yn feirniadol o gynllun i anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda tra bod eu cais i aros yn y DU yn cael ei brosesu.
Ond dywed Llywodraeth y DU byddai'n amddiffyn ffoaduriaid sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio.
'Misoedd wedi mynd'
Daw sylwadau Mr Drakeford er gwaethaf cyhoeddiad ym mis Ionawr y byddai Boris Johnson yn cadeirio fforwm newydd ar gyfer trafod gydag arweinwyr llywodraethau datganoledig y DU.
Bwriad y fforwm yw cymryd lle'r hen Gydbwyllgor Gweinidogion, oedd ddim yn cwrdd yn aml.
"Ni'n dal i wneud pethe ry'n ni'n gwneud pob dydd gyda Llywodraeth y DU, dwi am ysgrifennu at y Prif Weinidog heddi am rhywbeth hollol wahanol sy'n bwysig i ni yng Nghymru a ble mae Llywodraeth y DU yn gallu gwneud pethe i helpu ni, so ni yn bwrw 'mlân 'efo pethau pob dydd fel'na.
"Dwi just ddim yn gallu cofio nawr pryd ges i y cyfle i siarad gyda fe [Johnson], mae misoedd wedi mynd heb sgwrs o gwbl.
"Ni'n sgwrsio gyda gweinidogion eraill yn Llywodraeth y DU pob wythnos... ond mae cyfarfodydd gyda'r Prif Weinidog, mae hwnna bron wedi diflannu."
Ychwanegodd: "Ma'n poeni fi achos mae cytundeb newydd 'da ni am sut i redeg y perthnasau rhwng y pedair llywodraeth... Mae pobl wedi gweithio'n galed i gael y cytundeb, oedd Llywodraeth y DU yn rhoi pethau mas ar y diwrnod i ddweud fod o'n gam pwysig ymlaen.
"Ar ôl yr etholiadau yng Ngogledd Iwerddon, gobeithio bydd llywodraeth newydd yna i gael ni gyd dros y bwrdd 'da'n gilydd, mae hynny yn bwysig."
Cynllun Rwanda
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ddydd Iau y bydd rhai ceiswyr lloches yn cael eu hanfon i Rwanda tra bod eu cais i aros yn y Deyrnas Unedig yn cael ei brosesu.
Y gred yw y bydd dynion sengl sy'n cyrraedd mewn cychod bychain ar arfordir de Lloegr yn cael eu hadleoli, ac o bosib eu hannog i aros yn Affrica.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn dweud y bydd y cynllun yn amddiffyn ffoaduriaid sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio.
Ond yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Drakeford bod y cynllun yn un "creulon, drud ac aneffeithiol".
Aeth ymlaen i'w ddisgrifio fel syniad "niweidiol i enw da'r DU yng ngweddill y byd", er ei fod yn credu "na fydd unrhyw ffordd fyth o ddigwydd".
"Nid yw'r llywodraeth [y DU] wedi llwyddo hyd yn oed i gael y gyfraith trwy'r senedd a fyddai'n rhoi pŵer iddyn nhw wneud yr hyn maen nhw'n ymddangos fel ei gyhoeddi heddiw," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n or-sinigaidd i awgrymu y bydd y Prif Weinidog yn falch o gael stori wahanol ar y bwletinau newyddion na'r un sydd wedi dominyddu dros y dyddiau diwethaf."
Roedd Mr Drakeford yn cyfeirio at y sylw sydd wedi ei roi i'r ddirwy a gafodd Boris Johnson, a'i Ganghellor Rishi Sunak, am dorri cyfreithiau Covid-19.
Dywedodd Mr Drakeford eto ei fod yn credu y dylai Mr Johnson ymddiswyddo, gan ddweud: "Dwi ddim yn gallu gweld sut mae'n gallu cario 'mlân".
'Atal gangiau troseddol'
Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi amddiffyn y cynllun ar fudwyr, gan ddweud byddai'n sicrhau fod y llywodraeth yn gallu "gwahaniaethu'n decach rhwng ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr economaidd".
Dywedodd Mr Hart y byddai manylion llawn yn dod yn ddiweddarach ddydd Iau.
Ychwanegodd mai'r cymhelliant sylfaenol ar gyfer y cynllun oedd "torri model busnes" gangiau troseddol sy'n rhoi pobl mewn cychod bach i groesi'r Sianel.
Dydd Mercher, dywedodd Mr Hart nad oedd yn credu y dylai Mr Johnson ymddiswyddo dros y ddirwy gan yr heddlu, ac y byddai'n parhau i'w gefnogi petai rhagor o ddirwyon yn cael eu rhoi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021