Boris Johnson yn 'wir, wir ofnadwy', medd Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru fod Prif Weinidog y DU yn "wir, wir ofnadwy" yn dilyn cyfarfod o'r pwyllgor argyfyngau Cobra fis Rhagfyr y llynedd.
Cafodd sylwadau Mark Drakeford eu ffilmio fel rhan o raglen ddogfen yn dilyn ei ymateb i'r pandemig, a gafodd ei darlledu ar S4C nos Sul.
Awgrymodd ei fod yn teimlo "synnwyr o anobaith" yn dilyn trafodaeth yn ystod y cyfarfod am benderfyniad Ffrainc i wahardd teithiau yno.
Dywedodd Downing Street eu bod wedi gweithio'n agos gyda gweinidogion y gwledydd datganoledig.
Cyflwynodd Ffrainc y cyfyngiadau wedi i straen newydd mwy heintus o'r coronafeirws ddod i'r amlwg yn y DU, cyn eu llacio wedi cytundeb i brofi gyrwyr lori.
Fe wnaeth gwledydd eraill hefyd gyflwyno gwaharddiadau teithio tebyg.
Mae'r rhaglen hefyd yn amlygu hollt o fewn cabinet Llywodraeth Cymru a ddylai'r angen i leihau nifer yr aelwydydd oedd yn cael cyfarfod i ddathlu'r Nadolig fod yn gyfraith yn hytrach na chanllaw.
Yn ystod yr alwad, mae'n bosib clywed Mr Johnson yn dweud ei bod angen "edrych ar frys ar oblygiadau'r gwaharddiadau teithio y mae rhai o'n cyfeillion Ewropeaidd wedi'u gosod".
Am resymau diogelwch, nid yw'r rhaglen yn dangos mwyafrif y cyfarfod, ond mae Mr Drakeford yn cael ei glywed yn dweud: "Diar mi, mae e wir, wir yn ofnadwy."
Ychwanegodd: "Dychmygwch fod amrywiolyn marwol newydd y feirws wedi ei ddarganfod yn Ffrainc a'u bod nhw'n ceisio ein perswadio bod dim angen gwneud dim byd i stopio gyrwyr lori Ffrengig rhag gyrru ar draws y cyfandir."
Pan ofynnodd ymgynghorydd a oedd angen unrhyw gofnodion o'r cyfarfod, atebodd Mr Drakeford: "Na, 'sa i'n credu bod unrhyw beth o gwbl, oni bai am wasgu ein dwylo, synnwyr o anobaith."
'Byd trwy lygaid Johnson mor wahanol'
Yn gynharach yn y rhaglen, dywedodd Mr Drakeford bod e a Mr Johnson "yn bobl wahanol iawn".
Roedd y ddau wedi astudio Lladin, meddai, "ond mae'n anodd ffeindio unrhyw beth arall yn gyffredin rhyngom fel pobl".
"Mae'r byd trwy lygaid Boris Johnson mor wahanol i'r byd mae pobl yng Nghymru yn ei weld. Mae'n anodd weithiau i ddeall o ble mae e'n dod a pam mae e'n gwneud yr hyn mae'n ei wneud."
Mae'r rhaglen yn dangos y broses arweiniodd at benderfynu caniatáu i ddwy aelwyd gyfarfod i ddathlu'r Nadolig yn hytrach na thair fel yr oedd pedair gwlad y DU wedi'i gytuno.
Cafodd y newid hwn ei wneud yn gyfraith maes o law - nid oedd yn glir i ddechrau ai cyfraith ynteu cyngor oedd y penderfyniad.
Gan ymddangos ei fod yn cyfeirio at y wasg a'r cyfryngau, dywedodd Mr Drakeford: "Gobeithio bod neb yn ddigon craff i holi, 'ai 'dylid' yn yr ystyr 'rheol' ynteu 'dylid' yn yr ystyr 'cyngor'?"
"Maen nhw'n gofyn yn barod," atebodd swyddog. Rhegodd Mr Drakeford mewn ymateb.
Mae'r rhaglen yn mynd ymlaen i ddangos cyfarfod cabinet diweddarach, ble roedd yna hollt ymhlith gweinidogion a ddylid gwneud y gorchymyn dwy aelwyd yn ddeddf. Penderfynodd Mr Drakeford o blaid ei wneud yn ddeddf.
'Fe ddylai barchu'r swydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson bod "llawer iawn o gyfarfodydd a galwadau wedi bod ers dechrau'r pandemig gyda'r gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid lleol".
Mae'r cysylltiadau hyn, meddai, yn cynnwys galwadau wythnosol rhwng y Prif Weinidogion, eu dirprwyon a Michael Gove.
Ychwanegodd: "Mae'r Prif Weinidog wedi trafod yn y gorffennol ei fwriad i fynd i'r afael â'r pandemig yma fel un Deyrnas Unedig. Dyna pam rydym wedi gweithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig."
Mae sylwadau Mr Drakeford wedi cael eu beirniadu gan arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru.
Awgrymodd Andrew RT Davies y dylai Mr Drakeford "barchu" swydd Prif Weinidog y DU er "nad yw'n hoffi'r rosette" y mae'n ei gwisgo.
"Mae'n bosib y gallai'r math yma o rethreg apelio'n dda at y cenedlaetholwyr cyn trafodaethau clymbleidio yn y Senedd ond nid wyf yn siŵr bod hwn yn adlewyrchu'n dda ar y Prif Weinidog Llafur," meddai.
Ychwanegodd bod "dros hanner miliwn o bobl Cymru wedi pleidleisio dros [Boris Johnson a'r Ceidwadwyr] yn etholiad cyffredinol 2019, sydd, yn ôl fy nghyfrif i, yn hanner miliwn yn fwy nag sydd wedi pleidleisio drosto yntau erioed".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020