Fforwm newydd i'r DU drafod ag arweinwyr datganoledig

  • Cyhoeddwyd
arweinwyr y gwledyddFfynhonnell y llun, Boris Johnson/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i arweinwyr y gwledydd datganoledig gyfarfod Boris Johnson oedd yng nghynhadledd COP26

Bydd Boris Johnson yn cadeirio fforwm newydd ar gyfer trafod gydag arweinwyr llywodraethau datganoledig Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe fydd y system newydd yn cymryd lle'r hen Gyd-bwyllgor Gweinidogion, oedd ddim yn cwrdd yn aml dan Brif Weinidog y DU, Mr Johnson.

Bydd y cyngor newydd yn cynnwys prif weinidogion y gwledydd datganoledig a Phrif Weinidog y DU, gydag is-grwpiau i drafod cyllid a phynciau eraill sy'n effeithio ar y wlad gyfan.

Dywedodd Mr Johnson mai'r bwriad oedd helpu gweinidogion i "gyflawni er lles pobl Prydain".

'Goresgyn heriau'

Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd y strwythur newydd yn "creu system fwy hafal, tryloyw ac atebol i hybu cydweithio a rhannu gwybodaeth" rhwng y llywodraethau.

Byddai'r cytundeb yn gweld Mr Johnson yn cadeirio cyfarfodydd rhwng yr arweinwyr yn Llundain, Caerdydd, Caeredin a Belfast.

Bydd ail haen yn cynnwys dau bwyllgor sefydlog, un yn canolbwyntio ar gyllid a'r llall wedi'i gadeirio gan y gweinidog sy'n gyfrifol am y berthynas rhwng llywodraethau, Michael Gove.

Yna bydd trydedd haen yn cynnwys grwpiau gweinidogol gyda gwahanol adrannau llywodraeth yn trafod "ystod eang o faterion polisi".

Dywedodd Mr Gove y byddai modd "gweithio gyda'n gilydd yn fwy effeithiol" dan y drefn newydd, gan "oresgyn heriau... a gwella bywydau pobl".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y prawf yn dod pan welwn ni a fydd Llywodraeth y DU yn dilyn ysbryd yr adolygiad, sydd wedi'i selio ar barch, fel bod y drefn newydd yn gwasanaethu pob llywodraeth yn hafal a theg."

Pynciau cysylltiedig