Cwpan y Byd: Gêm dyngedfennol Cymru i'w chynnal ar 5 Mehefin

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn dathluFfynhonnell y llun, FAW

Bydd Cymru'n chwarae'r gêm dyngedfennol am le yng Nghwpan y Byd 2022 am 17:00 ar 5 Mehefin, mae UEFA wedi cadarnhau.

Fe fydd y gwrthwynebydd yn cael ei benderfynu ar 1 Mehefin - pan fydd Yr Alban a Wcráin yn herio ei gilydd.

Roedd rhaid gohirio'r gêm honno, a'r gêm derfynol, yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Curodd Cymru Awstria fis diwethaf i sicrhau lle yn y gêm ail gyfle.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod tocynnau ar gyfer y gêm honno yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.

Cynghrair y Cenhedloedd

Oherwydd yr aildrefnu, fe fydd sawl gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd hefyd yn cael eu symud.

Fe fydd Cymru'n herio Gwlad Pwyl oddi cartref ar 1 Mehefin cyn y gêm hollbwysig ar gyfer Cwpan y Byd.

Yna ar 8 Mehefin fe fyddant yn croesawu'r Iseldiroedd i Gymru, Gwlad Belg ar 11 Mehefin, a thaith i'r Iseldiroedd ar 14 Mehefin.

Dywedodd UEFA y byddai lleoliadau ac amseroedd y gemau'n cael eu cadarnhau yn ddiweddarach.

Dywedodd Steve Williams, llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn falch fod penderfyniad wedi'i wneud ond eu bod yn cydymdeimlo gyda chefnogwyr oherwydd unrhyw anghyfleustra.

"Mae'r gymdeithas wedi bod yn lobio gyda'r ddau gorff rheoli er mwyn lleihau unrhyw amharu gymaint â phosib, tra'n cydnabod hefyd fod y sefyllfa rydym ynddo yn ddigynsail a heb unrhyw fai ar y gwledydd sydd wedi eu heffeithio," meddai.

Gemau Mehefin

  • 1 Mehefin, 17:00 - Gwlad Pwyl v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)

  • 5 Mehefin, 17:00 - Cymru v Yr Alban neu Wcráin (Cwpan y Byd)

  • 8 Mehefin, 19:45 - Cymru v Iseldiroedd (Cynghrair y Cenhedloedd)

  • 11 Mehefin, 19:45 - Cymru v Gwlad Belg (Cynghrair y Cenhedloedd)

  • 14 Mehefin, 19:45 - Iseldiroedd v Cymru (Cynghrair y Cenhedloedd)