Dyn yn dal haint wedi sesiwn hyfforddi mewn afon
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwr bad achub yn dweud ei fod wedi treulio dyddiau yn yr ysbyty ar ôl dal haint parasitig sy'n gysylltiedig â charthion ar ôl sesiwn hyfforddi yn Afon Hafren.
Fe gafodd David Deveney ddiagnosis o giardiasis ar ôl treulio dwy awr yn Afon Hafren, gyda phrofion yn dangos bod yna siawns o 80% ei fod wedi dod o garthffosiaeth ddynol.
Cafodd carthion eu gollwng i afonydd Cymru dros 95,000 o weithiau ac am dros 785,000 o oriau'r llynedd, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Nid yw'r salwch wedi cael ei gysylltu'n bendant â charthion yng Nghymru.
Mae afonydd Hafren a Gwy yn llifo drwy Gymru a Lloegr.
Yn ôl Dŵr Cymru, sy'n darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff i'r rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru, effaith "gyfyngedig" gafodd y gollyngiadau ar afonydd Cymru.
Aeth Mr Deveney, sy'n aelod o Gymdeithas Achub Ardal Hafren yn Beachley, Swydd Gaerloyw, yn sâl ym mis Hydref 2020 ar ôl dysgu gwirfoddolwyr sut i fynd i mewn, allan ac o dan y dŵr.
Salwch sy'n cael ei achosi gan barasit giardia ydy giardiasis ac mae modd ei ddal wrth yfed dŵr sydd ddim wedi cael triniaeth i ladd germau, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd David mai'r "peth olaf" ar ei feddwl oedd dal parasit wrth ymarfer, ond y noson honno fe ddeffrodd yn sydyn yn chwydu ac yn dioddef o ddolur rhydd difrifol.
Parhaodd y symptomau am dri diwrnod.
Gan nad oedd wedi bwyta mewn unrhyw fwytai nac wedi yfed dŵr heb ei drin yn y 48 awr cyn mynd yn sâl, daeth ei feddyg teulu i'r casgliad ei fod, yn ôl pob tebyg, wedi llyncu'r bacteria yn yr afon.
'Wedi bod trwy uffern'
Treuliodd Mr Deveney dridiau yn ward gastroberfeddol Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd cyn gwella digon i fynd adref am tua wythnos.
Ond bu'n rhaid mynd yn ôl i'r ysbyty ac fe dreuliodd bum niwrnod yn cael triniaeth yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân.
Doedd Mr Deveney ddim digon da i weithio am dair wythnos a hanner oherwydd y salwch ddywedodd na fyddai'n dymuno ar "ei elyn fwyaf."
"Rydw i wedi bod trwy uffern gyda'r ôl-effeithiau," meddai.
Mae giardiasis yn salwch hysbysadwy, sy'n golygu bod yn rhaid rhoi gwybod amdano i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn ogystal â'r awdurdodau yn Lloegr.
"Fe ddywedon nhw fod yna siawns o 80% mai o slyri dynol neu wastraff dynol ddaeth e," meddai. "Mae'n troi eich stumog pan ydych chi'n meddwl am y peth.
"Rydych wedi ei lyncu heb unrhyw fai arnoch chi pan oeddech chi'n meddwl mai cael hwyl oeddech chi mewn afon arferol."
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd modd gwneud sylw ar achosion penodol.
"Anodd iawn byddai dweud mai un fferm, neu un cwmni, neu un pwynt yn y system garthffosiaeth oedd yn gyfrifol," meddai Mr Deveney, "ond dwi wedi ailfeddwl faint o ddŵr dwi'n ei gymryd mewn ar yr afon."
"Fydd hyn ddim yn stopio fi rhag gwirfoddoli gyda'r bad achub na fel hyfforddwr, ond mae pethau wedi newid.
"Rydym yn mynd â mwy o weips gwrthfacterol gyda ni ac yn ceisio peidio â mynd o dan y dŵr mor aml ag yr oeddem yn gwneud cyn hyn."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor i nofwyr sy'n dweud: "gall bacteria, firysau, ac algâu gwenwynig fod yn bresennol mewn rhywfaint o ddŵr."
Maen nhw hefyd yn rhoi cyngor i osgoi dŵr sy'n "edrych neu arogli'n ddrwg".
Er na fydd yna sicrwydd ynglŷn â tharddiad y bacteria a achosodd salwch Mr Deveney, roedd glaw trwm a llanw uchel ar y pryd, sy'n golygu ei fod o'n credu taw Afon Gwy oedd y ffynhonnell.
Beth mae'r ffigyrau'n ei ddweud?
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Dŵr Cymru yn nodi bod dros 94,000 o achosion wedi bod o ollwng carthion i afonydd Cymru yn 2021, gyda'r gollyngiadau'n para am dros 785,000 o oriau.
Daw'r ffigyrau o safleoedd monitro ger dros 2,000 o weithfeydd trin dŵr a gorlifiadau carthffosydd ar draws rhwydwaith Dŵr Cymru.
Tremarchog ger Wdig yn Sir Benfro welodd y nifer fwyaf o ollyngiadau, sef 366, barodd gyfanswm o 6,662 o oriau.
Yn Afon Gwy a'i llednentydd, bu 1,678 o achosion o ollyngiadau am gyfanswm o 10,315 o oriau.
Mae Dŵr Cymru wedi bod yn rhyddhau data am ollyngiadau ers 2019.
Mae ffigyrau eleni 11% yn is na 2020, pan oedd 'na 106,094 o ddigwyddiadau am 872,976 o oriau.
Dangosai'r data diweddaraf gan gwmni Hafren Dyfrdwy, sydd â gwaith carthffosiaeth mewn rhai rhannau o'r canolbarth a'r gogledd, fod 1,675 o ddigwyddiadau'r llynedd yn para am 6,583 awr.
Mae hynny'n uwch na 2020 pan oedd yna 1,269 o ollyngiadau barodd bron i ddwywaith yn hirach, sef 12,340 o oriau.
'Angen gweithredu'n gyflym'
Dywedodd Afonydd Cymru, y corff ymbarél sy'n cynrychioli chwe ymddiriedolaeth afon ar draws Cymru, fod gollyngiadau yn digwydd "yn llawer rhy aml."
"Er gwaetha'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am argyfwng hinsawdd a natur, mae'n hafonydd yn dal i ddirywio, [gydag] un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu," meddai Prif Weithredwr Afonydd Cymru, Gail Davies-Walsh.
Mae hi'n rhybuddio bod poblogaethau eogiaid a sewin yn fregus iawn.
"Mae angen i ni weld gweithredu, ac yn gyflym, os yw'r sefyllfa am wella."
'Agoriad llygad'
Fel rhan o dîm sy'n ymateb i lifogydd a digwyddiadau dŵr yn Sir Fynwy, dywedodd Mr Deveney nad oedd gan griwiau "ddewis" ond mynd i mewn i ddŵr llygredig.
"Rydyn ni'n gwybod am y risg o lygredd ond pan mae rhywun angen ein help ni, fe fyddwn ni'n dal i fynd i'w helpu," meddai.
Mae'r tîm yn hyfforddi ar Afon Gwy rhwng Pont Bigsweir a Threfynwy.
Dywedodd Mr Deveney fod mynd yn sâl wedi bod yn "agoriad llygad".
"Rydyn ni bob amser yn chwilio am ddŵr wedi'i lygru," meddai.
"Rydych chi'n gweld dŵr brown, papur toiled a chondomau mewn llefydd eraill, neu ewyn brown mewn mannau, maen nhw i gyd yn arwyddion o ddŵr llygredig."
Dywedodd Mr Deveney ei fod yn aml yn gweld pobol ar yr afon rhwng Trefynwy a Chas-gwent, gan gynnwys padl fyrddwyr, caiacwyr a nofwyr, a'i fod yn poeni y byddan nhw'n mynd yn sâl hefyd.
"Dyw hi ddim yn hysbyseb da ar gyfer Dyffryn Gwy," meddai, "a byddwn i'n annog pobl i beidio â nofio yno er bod hynny'n mynd yn groes i mi i fwynhau'r dŵr."
Monitro mwy o lefydd
Dywed Dŵr Cymru fod y gollyngiadau yn "hanfodol" wrth atal llifogydd, a bod y system yng Nghymru, lle mae dŵr o'r wyneb yn draenio i'r un pibellau â charthffosiaeth, yn cael ei fonitro'n agos.
"Rydym yn falch bod ein buddsoddiad wedi helpu i leihau nifer y gollyngiadau 10% yn 2021, er ein bod wedi dechrau monitro 198 yn fwy o lefydd yn ystod yr un cyfnod," meddai llefarydd.
Dywedodd y cwmni byddai cael gwared â'r lleoliadau gollwng yn costio rhwng £9bn a £14bn ac yn arwain at orfod "tyllu bron bob stryd yng Nghymru".
Ychwanegodd Dŵr Cymru ei fod yn cydnabod bod angen gwneud mwy i wella ansawdd dŵr, ac y byddai'n buddsoddi £800m yn y rhwydwaith dŵr gwastraff erbyn 2025.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Severn Trent, sy'n berchen ar gwmni Hafren Dyfrdwy, mai amaethyddiaeth sy'n gyfrifol am 36% o lygredd afonydd.
"Ond mae angen i rywun ddal eu dwylo i fyny a delio â'r peth," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021