Gemau Invictus 'wedi achub bywyd' cyn-filwr Cymreig
- Cyhoeddwyd
"Ro'dd e'n sioc i'r system ac fe arweiniodd ataf fi'n ceisio lladd fy hun deirgwaith."
Bu'n rhaid i Craig Godsall, 30, adael y Gwarchodlu Cymreig ar ôl dioddef anaf i'w gefn yn Kenya.
"Bob un tro, bues i'n ffodus bod rhywun wedi cyrraedd mewn pryd a mynd â fi i'r ysbyty," meddai.
Y penwythnos hwn, mae Craig, sy'n byw yng Nghasnewydd, wedi teithio i'r Hâg yn Yr Iseldiroedd, i gymryd rhan yn y Gemau Invictus.
"Rwy'n meddwl ei fod wedi fy achub," meddai, "y gefnogaeth, y cwnsela, cael rhywbeth i anelu ato, mae wedi newid pethau yn llwyr."
Mae'r pumed Gemau Invictus yn dechrau ddydd Sadwrn, ar ôl cael eu gohirio yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig.
Bydd dros 500 o gystadleuwyr o 20 gwlad yn cystadlu - pob un yn aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi'u hanafu neu yn sâl.
Maen nhw'n cymryd rhan mewn deg camp - athletau, codi pwysau, saethyddiaeth, rhwyfo dan do, her yrru Land Rover, pêl-fasged cadair olwyn, rygbi cadair olwyn, beicio, pêl-foli eistedd a nofio.
Crëwyd y gemau gan y Tywysog Harry yn 2014 gyda'r nod o ddangos bod chwaraeon yn gallu "ysbrydoli adferiad, cefnogi adsefydlu ac i ddangos bywyd y tu hwnt i anabledd".
Cymerodd Craig ran mewn treialon ar gyfer y gemau yn Sheffield flwyddyn yn ôl cyn ymgeisio.
"Roeddwn i'n poeni tipyn wrth aros am yr e-bost i weld a oeddwn wedi cael fy newis," meddai.
"Roedd rhyw 300 o bobl wedi ymgeisio cyn i 65 gael eu dewis, felly roedd hynny'n eithaf arbennig."
Bydd ei ragbrofion, 100m a 200m, fore Sul ac os ydy o'n llwyddo, bydd yn cystadlu ddydd Llun.
"Mae yna ryw fath o fuddugoliaeth wrth jesd cyrraedd yma.
"Rydan ni wedi mynd trwy cyfnodau da a drwg, rhai isel iawn, dim ond er mwyn cyrraedd. Mae unrhyw beth ar ôl hynny yn fonws."
'Cyffrous - a nerfus'
Nid Craig yw'r unig aelod o Gymru o Dîm Invictus UK.
Mae Beth Langley, 30, o Dregaron yn un o ddau ffisiotherapydd y tîm.
"Rwy'n gyffrous iawn am y peth," meddai. "Fi 'chydig yn nerfus, oherwydd dyma fy ngemau cyntaf.
"'Sa i'n newydd i fyd physiochwaraeon, ond rydw i'n teimlo fy mod i wir eisiau i'r cystadleuwyr gael amser da ac rydw i eisiau gwneud fy ngorau drostyn nhw.
"Mae'n mynd i fod yn heriol oherwydd mae yna lawer ohonyn nhw a dim ond dau ohonon ni physios!"
Bydd Gemau Invictus yn parhau tan ddydd Gwener 22 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019