Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Solihull Moors
- Cyhoeddwyd

Cyfartal 1-1 oedd hi ar ddiwedd gêm gyffrous rhwng dau o'r timau ar frig Adran Dau, a hynny o flaen bron i 10,000 o gefnogwyr - torf fwyaf y tymor ar y Cae Ras.
Bu'n rhaid i Wrecsam unioni'r sgôr wedi i Solihull Moors sgorio gyntaf.
Ond yn wahanol i rai o gemau diweddar y Dreigiau doedd dim goliau dramatig munud olaf i gipio'r fuddugoliaeth a bu'n rhaid i'r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un.
Yn ystod hanner cyntaf cystadleuol a difyr, roedd yr ymwelwyr fymryn yn fwy effeithiol na'r tîm cartref.
Joe Sbarra - a sgoriodd ddwywaith yn erbyn Wrecsam yng ngêm gyfartal y ddau dîm ar ddiwrnod agoriadol y tymor - ddaeth yr agosaf at sgorio cyn yr egwyl.
A Sbarra, gyda'i drydydd ymgais, wnaeth sgorio gôl gyntaf y prynhawn, ychydig dros 10 munud i mewn i'r ail hanner.
Ond fe darodd Wrecsam yn ôl o fewn dau funud pan darodd tafliad hir Ben Tozer dalcen Ollie Palmer a beniodd y bêl i'r rhwyd.
Roedd yna ddigon o gyffro weddill yr ail hanner rhwng y timau a ddechreuodd y gêm yn ail ac yn bedwerydd yn y tabl, ond dim goliau pellach.
Ac wrth i'r tîm oedd yn y trydydd safle, Halifax Town, hefyd gael gêm gyfartal ddydd Gwener, mae Wrecsam yn parhau yn yr ail safle, gyda 75 o bwyntiau.