Draenog wedi marw ar ôl cael ei roi ar dân yn Aberdâr
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion a delweddau a allai beri gofid i rai.
Mae draenog wedi marw ar ôl cael ei roi ar dân yn Rhondda Cynon Taf.
Wrth i rywun ymosod ar yr anifail mewn parc yn Aberdâr rhwng 17:00 a 18:00 ddydd Iau, fe wnaeth rhywun oedd yn cerdded heibio gamu i'r adwy i'w helpu.
Rhoddodd y tyst gymorth cyntaf ond gwnaed y penderfyniad gan Hedgehog Helpline i roi'r creadur i lawr.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd "criw o lanciau'n ymddwyn yn amheus" yn yr ardal ar adeg y digwyddiad.
Dywedodd yr RSPCA eu bod yn ymchwilio i'r ymosodiad.
'Poen ofnadwy'
Dywedodd Sarah Liney o Hedgehog Helpine: "Cafodd y draenog ei gludo i un o'n hysbytai maes yn Nhredegar, ond roedd yr anafiadau'n ofnadwy.
"Roedd yr anifail wedi'i dawelu ond gwnaed y penderfyniad y bore yma i'w roi i lawr.
"Pan fydd y pigau'n cael eu llosgi maen nhw'n parhau i losgi hyd yn oed pan maen nhw'n ymddangos fel pe baent wedi diffodd.
"Mae'n rhaid bod yr anifail mewn poen ofnadwy, pwy fyddai'n arteithio anifail fel hwn?"
Dywedodd Llinell Gymorth Hedgehog ar eu tudalen Facebook fod yr ymosodiad yn "erchyll".
Dywedodd yr RSPCA: "Rydym yn ymwybodol o hyn ac yn ymchwilio iddo."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld criw o lanciau'n ymddwyn yn amheus yn y parc rhwng 5pm a 6pm nos Iau i gysylltu â Heddlu De Cymru."