Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 27-38 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Dragons celebrate win over ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Hawliodd y Dreigiau eu buddugoliaeth gyntaf mewn chwe mis wrth iddyn nhw drechu Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn.

Ceisiau gan seren y gêm Jack Dixon, Taine Basham, Jared Rosser, Taylor Davies a Rhodri Williams ac 13 pwynt gan Sam Davies seliodd y fuddugoliaeth.

Mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi cael ergyd yn sgil y canlyniad ar Barc y Scarlets.

Sione Kalamafoni, Liam Williams, Johnny Williams a Kieran Hardy sgoriodd y ceisiau i dîm Dwayne Peel - ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Derbyniodd y Scarlets dri cherdyn melyn - i Steff Evans, Corey Baldwin a Jonathan Davies - gyda'r profiadol Davies yn lwcus i beidio cael cerdyn coch yn y munudau agoriadol am ei dacl uchel ar Josh Lewis.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth o'r tymor i dîm Dean Ryan, gyda'u buddugoliaeth olaf yn dod yn erbyn Connacht yn Galway ym mis Hydref 2021.

Roedd yna foment emosiynol cyn y gêm pan ddaeth y cyn-flaenasgellwr James Davies allan ar y cae ar ôl cyhoeddi ei ymddeoliad yn 31 oed yn gynharach yn y mis oherwydd cyfergyd.

Pynciau cysylltiedig