Llanbedrog: Tri pherson ifanc yn yr ysbyty ar ôl i gar daro wal
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson yn eu harddegau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl i gar daro wal yn Llŷn nos Sadwrn.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r A499 yn Llanbedrog ger Pwllheli toc cyn 22:00 ar ôl y digwyddiad yn ymwneud â Ford Fiesta ST glas.
Galwyd y gwasanaethau brys a chafodd y tri - a oedd yn teithio yn y car - eu cludo i'r ysbyty.
Cafodd un ei hedfan i'r ysbyty yn Stoke, a'r ddau arall eu gyrru mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae un o'r rhai a gludwyd i Fangor bellach wedi ei drosglwyddo i Stoke.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y car yn teithio yn yr ardal nos Sadwrn.