Cerddwr wedi cael anaf i'w ben wrth ddod lawr Tryfan

  • Cyhoeddwyd
TryfanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cerddwr wedi dioddef anaf i'w ben ar ôl disgyn 30 troedfedd yn Eryri.

Cafodd tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen a hofrennydd gwylwyr y glannau eu galw i fynydd Tryfan.

Ar ôl cael triniaeth yn y fan a'r lle, cafodd y dyn ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Y digwyddiad ddydd Sadwrn oedd pedwerydd galwad Pasg i'r gwirfoddolwyr.