Llanilltud Fawr yn ennill cynghrair y Cymru South

  • Cyhoeddwyd
Llanilltud FawrFfynhonnell y llun, CBDC/Lewis Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Fe seliodd Llanilltud Fawr y gynghrair trwy drechu Gwndy o 3-1 ddydd Llun

Mae Clwb Pêl-droed Llanilltud Fawr wedi selio tlws cynghrair y Cymru South ar ôl trechu Gwndy ar ddydd Llun y Pasg.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwrthod rhoi trwydded i'r clwb chwarae yn y Cymru Premier y tymor nesaf - penderfyniad y mae'r clwb yn ei apelio.

Mae'r clwb sydd wedi gorffen yn yr ail safle, Pontypridd, yn yr un sefyllfa, gyda disgwyl penderfyniad ynglŷn â'r apeliadau ddydd Iau.

Pe bai'r un o'r ddau glwb yn derbyn trwydded, bydd y tîm sy'n gorffen yn 11eg yn y Cymru Premier yn cadw eu lle yn y gynghrair.

Y Barri yw'r clwb hwnnw, wedi iddyn nhw gel eu trechu mewn gêm dyngedfennol yn erbyn Aberystwyth ddydd Llun.