Mwangi: Wedi ei drin fel sbwriel, gadawodd neges i gymdeithas

  • Cyhoeddwyd
LoganFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Fe gafodd corff Logan Mwangi ei adael fel darn o sbwriel anghyfreithlon, heb fod ymhell o'r fan lle mae afonydd Ogwr a Llynfi'n cydlifo.

Ond aeth llif gwan Gorffennaf y llynedd ddim â'r dystiolaeth bwerus.

Os nad oedd y plentyn pum mlwydd oed wedi gallu lleisio'i ddioddefaint mewn bywyd, roedd ei gorff bach yn adrodd cyfrolau.

Roedd ganddo 56 o anafiadau allanol gweledol ond y rhai mewnol a'i laddodd.

Roedd ei afu wedi rhwygo, ei goluddyn wedi ei guro'n dyllau, gwaed yn cronni yn ei berfedd a'i ymennydd wedi chwyddo.

Anafiadau sy'n cael eu cysylltu â damweiniau car difrifol fel arfer.

Ardal gymharol dlawd o Ben-y-bont yw'r ardal lle'i fagwyd ger cae chwarae Clwb Rygbi Tondu. Mae pobl yn mynd a dod yn gyson i barc Pandy i gicio pêl, cerdded eu cŵn neu i gael awyr iach.

Ond fe gaiff yr ardal ei chofio mwyach am yr hyn ddigwyddodd yn nhywyllwch nos.

Drwy hap a damwain roedd golau diogelwch cymydog wedi goleuo pan ddaeth John Cole o rif 5 Llansantffraid Isaf am 02:43.

Roedd corff Logan dros ei ysgwydd a'r llanc 14 oed yn ei ddilyn.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd symudiadau y tu mewn i'r fflat ganol nos eu recordio gan gamera cymydog

Cafodd y cyfan ei recordio ar gamera diogelwch tŷ arall tua 50 metr i ffwrdd. Byddai'r lluniau yma'n allweddol i ymchwiliad yr heddlu ac yn asgwrn cefn i achos yr erlyniad.

Yn ystod yr achos fe ddaeth y rheithgor i ymweld â'r ardal. Seriwyd y lleoliadau ar eu cof mae'n siŵr.

Roedd yna dri lleoliad penodol - y fflat oedd yn gartre' i Logan, ei fam a'i lystad, Afon Ogwr gerllaw lle cafwyd hyd i'r corff, a darn o lwybr at goetir lle gollyngwyd ei ddillad nos.

Roedd hynny yn rhan o'r cynllwyn i gamarwain yr heddlu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Am bod y fflat yn gymharol fach, bob yn dri aeth aelodau'r rheithgor i'r cartre'. Dilynodd y timau cyfreithiol wedyn.

Fe es innau i'r fflat wedyn ymhlith dyrnaid o gynrychiolwyr y wasg.

Er bod 'na gyfyngiadau o hyd ar yr hyn y mae modd i ni adrodd dyma i chi'r hyn a welais i.

Fflat un llawr yw rhif 5 - dwy 'stafell wely, 'stafell fyw, 'stafell ymolchi a chegin. Mae'n lawr gwaelod tŷ cyngor traddodiadol - yn fflat cyfyng, digon arferol ac roedd y teulu'n byw ar fudd-daliadau.

Roedd bocsys o drugareddau'r teulu ymhobman.

Ar y dde roedd y brif ystafell wely - ystafell Angharad Williamson a John Cole. Yno roedd gwely, teledu mawr ar y wal a theganau, gemau cyfrifiadur a dillad yma a thraw.

I'r chwith i'r coridor roedd yr ystafell fyw - eto'n llawn trugareddau'r teulu.

Yn y cefn roedd stafell, y 'stafell ymolchi, ac yna'r gegin sgwâr. Ar wal y gegin - dyddiadur misol ac arno restr o brydau bwyd y teulu, bwrdd â llythyron apwyntiadau meddygol, oergell a pheiriant golchi a chadair olwyn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Drws nesa' yn y cefn roedd 'stafell wely Logan - 'stafell lle roedd y llenni'n gyson ar gau a larwm ar y ffenest i'r iard gefn.

Ystafell plentyn bach oedd hon, ac ynddi deganau a lamp gyda lluniau cymeriad cartŵn.

Yma mewn dwnjwn y treuliodd Logan ei 10 diwrnod olaf ar y ddaear.

Roedd wedi profi'n bositif am Covid, a gweddill y teulu'n mynnu ei fod yn cadw draw.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Logan wedi ei gadw yn ei ystafell gyda giât ar y drws yn y dyddiau cyn iddo farw

Gosodwyd giât babi ar draws y drws, a gorfodwyd y bachgen bach i wisgo mwgwd a wynebu'r wal pan oedd yn cael ei fwydo.

Ac ar ddiwedd y dioddefaint hyn, cafodd ei guro'n ddi-drugaredd gan ei lystad, ei fam a chrwt 14 oed.

Roedd gweithwyr cymdeithasol wedi ymweld ond oherwydd Covid roeddent wedi gorfod aros ar garreg y drws yn enwedig yn ystod yr wythnos dyngedfennol olaf.

Fe ddigwyddodd y cyfan tu ôl i ddrysau caeëdig rhif 5 Llansantffraid Isaf ar stad digon di-nod ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Na, aeth llif yr Ogwr ddim â'r dystiolaeth allweddol.

Gadawodd Logan neges i'n cymdeithas, a thrwy'r neges honno a dyfarniadau'r rheithgor, mae'n bosib bod 'na fymryn o gyfiawnder iddo.

Pynciau cysylltiedig