Ni'n Dau: Nic Parry a'i efaill, Wil
- Cyhoeddwyd
![Nic Parry a'i efaill Wiliam](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/23D4/production/_124227190_b8497535-c839-43ed-a74e-a336e80415a2.jpg)
Nic Parry a'i efaill Wiliam
Mae Nic Parry yn adnabyddus fel sylwebydd chwaraeon a barnwr - ond mae o hefyd yn efaill.
"Dybl Trybl!", "Ydach chi'n idenitical?", "Oes yna un yn waeth na'r llall?"; dyna ddim ond lond llaw o'r cwestiynau mae efeilliaid yn eu hwynebu'n aml.
Mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru, mae Nic yn archwilio'r berthynas arbennig sydd rhwng efeilliaid ac yn mynd ar daith ledled Cymru i sgwrsio gydag efeilliad o bob oed.
Yma, mae Nic yn rhannu ei brofiadau ei hun o fod yn efaill i Wiliam, a'i ganfyddiadau ar ôl mynd ar daith arbennig.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/1586C/production/_124227188_line976.jpg)
Yr enedigaeth: 'O! A ma' 'na ddau!'
Mae'n chwedl deuluol yn tŷ mai ffonio 'sbyty HM Stanley Llanelwy o giosg wnaeth dad i holi os oedd 'na newydd am yr enedigaeth. Fawr o stori medda chi o gofio mai pumdegau'r ganrif ddiwetha' oedd hi ond yr ateb gafodd sy'n gofiadadwy:
"Mae Ceinwen yn iawn Ron. O! A ma' 'na ddau!" Dyna'r cyntaf a wyddai dad bod posibiliad o'r fath beth.
![Wil a Nic gyda'u mam, Ceinwen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B13C/production/_124227354_12b45cb0-b6ed-4b4e-8f36-e036de3a8380.jpg)
Wil a Nic gyda'u mam, Ceinwen
Pan ofynnodd os oedd o'n dad i feibion neu ferched, yr ateb gafodd gan y nyrs oedd na chai ddweud wrtho ond, "os oeddach chi'n meddwl am ffurfio tîm pêl-droed, 'da chi 'di cael cychwyn da!"
Wiliam Elis ddaeth gyntaf, Niclas Iorwerth yn dilyn rhyw ddeng munud wedyn. Fel arall fuodd hi ar ôl hynny. Fuodd Wil fyth ar frys wedyn. Fo oedd yr un pwyllog, amyneddgar ohonan ni, fo nid fi oedd yn hapus i gymeryd ei amser, i aros ei dro a hyd yn oed wedyn, oedi!
'Sut beth ydy bod yn efaill?'
Dyna ichi gwestiwn a ofynwyd imi'n aml, ond y cwestiwn i mi yw, "Sut beth yw peidio bod yn efaill?" Wn i am ddim byd arall wrth gwrs, ond yr ateb efallai yw ei fod fel cael eich geni efo ffrind gorau.
Allai Wil a fi ddim fod wedi bod yn fwy gwahanol. Yn ifanc, roedd gan Wil wallt cyrliog a llygaid glas a finnau'n frown.
Yntau'n gorfforol gryf ac yn athletwr dawnus tu hwnt, beth bynnag oedd siap y bêl, a minne, fel dywedodd rhywun unwaith, fel rhiwbob wedi rhedeg a, sut wnai ei roi o… yn frwdfrydig ym maes y campau!
![Nic a Wil](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/71F4/production/_124227192_c4f5afeb-ade5-4364-98d9-4f740fd6ff08.jpg)
Nic a Wil
Yntau wedyn, yn aml fy nhraul i, yn denu'r merched prydfertha' fel magned, heb orfod trio (Sut? Pam? Fe ofynnais i hynny mor aml).
A'r gwahaniaeth mwya'? Heb os, ei swildod tawel o, yn hapus yn y cysgodion. A fi? Go brin bod angen imi ymhelaethu! Wnaeth neb erioed orfod gofyn, "Pa un wyt ti?"
Cyfarfod efeilliaid eraill Cymru...
Mor wahanol ydy hynny i rai o'r efeilliaid bendigedig gwrddais i wrth baratoi ar gyfer y rhaglen Ni'n Dau i BBC Radio Cymru. Dyna ichi Twm Silyn a Gwil Ioan, efeilliaid 7 oed o Lanbedr Goch, Sir Fôn.
Gwyliwch Nic Parry yng nghwmni'r efeilliaid direidus Twm Silyn a Gwil Ioan
Yn efeilliaid unfath yng ngwir ystyr y gair. Maen nhw mor debyg, mae ganddynt eu henwau wedi sgwennu ar fraich eu siwmperi ysgol i helpu pawb a choeliwch fi, roedd raid imi edrych ar yr enw bob un tro.
Gwisgo label ar eu dillad wnai'r efeilliaid Roger a John Kerry o Harlech pan oedden nhw'n yr ysgol ddegawdau lawer yn ôl. Hyd heddiw, a hwythau'n eu saithdegau mae nhw'n dal i wisgo'r un fath, hyd yn oed lawr i'r sanau a sgidie. A diolch byth, Roger (R) sy' wastad yn eistedd ar y dde (Right ) a choeliwch fi, roedd angen gwybod hynny arna i.
![Owain a Rhys, efeilliaid sy'n cael eu cyfweld gan Nic ar y rhaglen Ni'n Dau, BBC Radio Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/10509/production/_124252866_6c10fbe8-913d-4f47-a19a-754e1086d22a.jpg)
Owain a Rhys Morris o Lanberis, efeilliaid sy'n cael eu cyfweld gan Nic ar y rhaglen Ni'n Dau, BBC Radio Cymru
Wrth baratoi i gwrdd â gwesteion arbennig iawn y rhaglen Ni'n Dau fe feddyliais i lawer am sut brofiad gafodd fy mam cyn esgor. Sut gyfnod beichiogrwydd gafodd hi yn y cyfnod hwnnw? "Mae 'na ddau beth mewn bywyd na allw chi baratoi'n iawn ar ei gyfer," medden nhw - efeilliaid!
Mam Ani Glyn a Cet Ogwen ydy Ceri Ogwen o Fethesda. Mae hi'n cyfadde' iddi gael sioc o glywed ei bod yn disgwyl efeilliaid ac wedi poeni sut y byddai'n ymdopi, ond fel y dywed, "mae rhywun yn cyfarwyddo" ac o gwrdd â'i genod hyfryd, mae'n amlwg ei bod wedi ymdopi'n wych.
![Anni Glyn a Cet Ogwen ynteu Cet Ogwen ac Ani Glyn..?!](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D309/production/_124252045_de306d6a-9340-494d-a486-200df2d8e2b2.jpg)
Pwy sydd yma tybed? Ani Glyn a Cet Ogwen ynteu Cet Ogwen ac Ani Glyn..?!
Mae Caryl Roberts, mam yr efeilliaid Tirion Symlog a Gwenllian Erfyn o Aberystwyth yn mynd ymhellach. Mae'n cyfaddef iddi hi fod yn "hollol gutted" o ganfod ei bod yn disgwyl efeilliaid. Mae Caryl yn hoff o drefn ac ar ôl bod mewn "survival mode" (ei geiriau hi) erbyn hyn mae'r magu yn rhedeg fel watsh!
![Tirion Symlog a Gwenllian Erfyn, tybed pwy yw Tirion a phwy yw Gwenllian?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E14A/production/_124247675_483a5442-06f7-4c68-8048-933360188ffc.jpg)
Tirion Symlog a Gwenllian Erfyn, tybed pwy yw Tirion a phwy yw Gwenllian?
Glywais i erioed i mam gael trafferth tra'n disgwyl, yn wahanol i Nia Bowen, mam i efeilliaid dwy oed, Manon a Gruff o Sir Gâr. Fe rannodd hi ei phrofiadau o glywed tra'n disgwyl efeilliaid bod siawns uchel y byddai'n rhaid i un fyw gyda Syndrom Down a'r cymhlethdodau sy'n codi o beidio gwybod pa un.
Yn gweithio yn y byd meddygol ei hun, mae ei beiriniadaeth o'r diffyg cefnogaeth sydd ar gael yn ogystal â'i chanmoliaeth o agweddau eraill yn agoriad llygad. Yn siŵr o godi gwên mae ei hapusrwydd a ddaeth yn sgîl geni efeilliaid. "Mae gwybod na fydd y ddau yma fyth yn adnabod unigrwydd yn rhywbeth arbennig," meddai.
![Will ac Anna, efeilliaid Laura Parry sy'n sgwrsio gyda Nic ar y rhaglen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12C19/production/_124252867_1e883723-d73d-4522-8273-1212fa123e11.jpg)
Will ac Anna, efeilliaid Laura Parry sy'n sgwrsio gyda Nic ar y rhaglen
Fel yn achos Gwion a Morus o Ryd-y-Clafdy, Pwllheli, mae'r rhieni i gyd yn sôn am hyfrytwch gweld y naill efaill mor warchodol o'r llall.
![Gwion a Morus o Ryd-y-Clafdy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1567A/production/_124247678_a1465399-2048-4db1-b4ca-3a072da8f769.jpg)
Gwion a Morus o Ryd-y-Clafdy
Mae arna i sawl dyled i Wiliam gyhyrog am gamu mewn i achub brawd byrbwyll o ffeit nad oedd fyth am ei hennill. Rwy'n cofio athro yn gorfod delio efo un achos ar ôl i Wil roi cweir 'amddiffynnol' i un o fwlis cydnabyddedig yr ysgol hŷn.
Fedrai ddim dweud bod yr athro yn cymeradwyo beth wnaeth Wil ond fe roddodd wers ir dosbarth am bwysigrwydd cariad brawdol!
Ac efallai mai dyna sy'n croniclo y berthynas unigryw a gwerthfawr o fod yn efaill, y dymuniad i ddweud, "Efallai na fyddai wastad yno efo ti ond fe fyddai wastad yno i ti."
Hefyd o ddiddordeb: