Llofruddiaeth Y Fenni: Teyrnged i daid 90 oed

  • Cyhoeddwyd
Michael HodsonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Hodson wedi cael ei ddisgrifio fel 'gŵr, tad, llystad, taid a ffrind hyfryd i gymaint o bobl'

Mae teulu dyn 90 oed wedi rhoi teyrnged iddo wedi i'r heddlu lansio ymchwiliad llofruddiaeth.

Cafodd Michael Hodson ei ganfod y tu allan i eiddo yn Y Fenni, Sir Fynwy, ar 5 Ebrill.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân, ond bu farw o'i anafiadau dridiau'n ddiweddarach.

Cafodd dynes 68 oed o'r Fenni ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth gan Heddlu Gwent ac mae bellach wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

'Ffrind hyfryd i gymaint'

Mewn datganiad, dywedodd merched Mr Hodson ar ran y teulu: "Roedd dad yn ŵr, tad, llystad, taid a ffrind hyfryd i gymaint o bobl.

"Roedd yn ŵr bonheddig addfwyn - yn garedig ac yn ddiymhongar.

"Roedd e hapusaf ymysg natur, yn gofalu am ei lysiau ac yn plannu coed. Roedd wrth ei fodd gyda'i deithiau niferus i'r Alban lle treuliodd amseroedd hapus gyda ffrindiau ar lannau afonydd.

"Mae'n gadael bwlch enfawr ym mywydau pawb oedd yn ei garu."

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig