Oriel Luniau: Y Pethe

  • Cyhoeddwyd
Sioned Birchall o flaen dresel y teulu a gyda chadair enillodd ei thaid mewn 'steddfod ysgol; un o'r eitemau etifeddodd Sioned ar ôl colli ei nainFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Birchall o flaen dresel y teulu a gyda chadair enillodd ei thaid mewn 'steddfod ysgol; un o'r eitemau etifeddodd Sioned ar ôl colli ei nain

Ar ôl colli ei nain yn 2021 ac etifeddu nifer o eitemau ar ei hôl, penderfynodd y ffotograffydd Sioned Birchall i ddogfennu eitemau Cymreig sydd wedi eu hetifeddu.

Boed yn ddresel, yn llwy garu neu'n focs o lythyrau, mae stori tu ôl i bob eitem mae rhywun wedi'i etifeddu ar ôl colli rhywun sy'n annwyl. Adrodd y straeon hynny a'r atgofion sydd ynghlwm â phethau mae Sioned yn ei chasgliad ffotograffiaeth Y Pethe.

Sioned Birchall fu'n rhannu rhai o luniau a straeon ei chasgliad gyda Cymru Fyw.

Y Pethe

Meddai Sioned wrth adlewyrchu'n ôl ar y pethau a etifeddodd gan ei nain: "I ddechrau, roeddwn yn pryderu am orfod dod o hyd i le i'r eitemau yma - ble fyddent yn mynd? Fydden nhw'n rhy frown/rhy fawr/rhy hen ffasiwn? Ond er fy mawr syndod roedd cysur i'w gael o'u cael yn y tŷ.

"Mae Barry Lubetkin, seicolegydd a chyfarwyddwr y Sefydliad Therapi Ymddygiad yn Manhattan, yn disgrifio'r cysur hwn fel "ymdeimlad lleddfol o continuum - cysylltiad sy'n gallu bod yn fwy pwerus ar ôl marwolaeth."

Aeth Sioned ati i gloriannu'r cysur hwn drwy gasglu ynghyd straeon unigryw am etifeddiaeth o bob cwr o Gymru. Eglura: "Nod cyfres Y Pethe yw rhoi sylw i straeon eitemau sydd wedi eu hetifeddu er mwyn archwilio themau fel megis galar a hanesion teulu ond hefyd parhad iaith a diwylliant."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r pethau etifeddodd Sioned ar ôl ei Nain oedd cadair enillodd ei thaid mewn 'steddfod ysgol mewn bocs

Sampler o Slofenia

Ar ôl ymchwilio a ffeindio cyfranwyr gydag eitemau etifeddol difyr ar hyd a lled Cymru, aeth Sioned ati i'w cyfweld yn Gymraeg.

Dyma oedd gan Hâf Weighton i'w ddweud am waith gwnïo Nada Lazic o Slofenia a fu'n brifathrawes yn Grangetown. Bu Hâf yn ffodus o etifeddu sampler cywrain gan Nada Lazic: "Mrs Lazic oedden ni'n ei galw hi. Roedd hi'n brifathrawes yn Grangetown yng Nghaerdydd ac mi ddoth hi o Slofenia.

"Roedd ei gŵr hi yn dod o Bosnia neu Slofenia a nath e gerdded reit ar draws Ewrop achos oedd e'n ofn Tito oedd yn arwain Iwgoslafia ar y pryd. Nethon nhw ddianc o Iwgoslafia a phenderfynu symud i Gymru achos roedd e eisiau cael job yn y pyllau glo.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

"Mam Mrs Lazic nath greu y sampler yma a dwi'n meddwl mai enw ei mam hi sydd ar y gwaelod"

"Ei mam hi nath greu y sampler yma a dwi'n meddwl mai enw ei mam hi sydd ar y gwaelod. Dwi'n cofio bod [y sampler] ar ei wal hi gartref. Roedd fy mam i wedi gweithio iddi hi am gyfnod hir. Roedd fy mhlant i yn bwysig iawn iddi hi. Doedd dim teulu gyda hi. Ar ôl iddi hi farw aeth popeth arall yn ei thŷ hi i ffrind iddi.

"Dyma rhywun yn dweud bo hi wedi dweud bo fi'n gallu cael y sampler… Dwi'n cofio pan oeddwn i'n mynd i'w thŷ hi o'n i o hyd yn gofyn am y sampler. Dwi'n cadw symud y darn oherwydd bo fi ddim cweit yn siwr ble i'w roi o yn y tŷ yn union - dwi'n meddwl y bydde hi wedi hoffi ei bod hi yn stafell y plant oherwydd oedd hi yn hoffi'r plant."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Y sampler ar y wal yn ystafell y plant; mae Hâf yn credu y byddai Mrs Lazic wedi hoffi hynny

Cwpwrdd Cornel Ewyrth Keith

Cwpwrdd cornel mae Siân-Elin Jones wedi ei etifeddu gan ei hewyrth, Keith. Mae Ewyrth Keith wedi penderfynu rhoi rhai o'i eitemau pwysig i'w deulu tra mae dal yn fyw. Mae'n amhrisiadwy gan ei fod yn cynrychioli hen draddodiadau a diwylliant Cymreig iddi.

Meddai Siân: "Cwpwrdd cornel yw e, un sydd wedi dod lawr trwy'r teulu. Mae fe'n dod yn wreiddiol o stad y gwaith mwyn - oddi wrth y perchnogion Mr a Mrs Dean - ac fe wnaed y cwpwrdd cornel gan saer coed o ardal Dylife Llanbrynmair, Demitirus Owen.

"O ran dyddiad ry'n ni'n credu ei fod e'n mynd nôl i 1820au neu'r 1830au. Dwi wedi cael e ar ôl fy'n ewyrth pan goffodd e symud mas o'i gartref i fynd i gartref hen bobl. Mae'r hanes teuluol yn bwysig i mi a dwi'n falch iawn fod fy ewythr wedi gallu rhoi y cefndir i fi.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Siân-Elin Jones yn pori trwy hen gwpwrdd cornel ei hewythr

"Mae'n braf ei fod e wedi cael ei wneud yng Nghymru mewn ardal lle oedd gen i lot lot o deulu ar un adeg. Dwi yn cofio nain - sef fy hen fam-gu i - oedd hi yn cadw jar o losin yn y cwpwrdd cornel a pan o'n i'n mynd lan i'w gweld hi oedd hi'n agor y cwpwrdd a mas fyddai'r drar losin yn dod.

"Mae'r cwpwrdd cornel yn cynrychioli hen draddodiadau a diwylliant Cymreig a Chymraeg i mi. Mae hefyd yn cynrychioli hen aelwyd Gymraeg fy ewyrth, fy mam-gu a fy nain (mam mam-gu). Mae'r Gymraeg yn perthyn i'r cwpwrdd ac mae'r cwpwrdd yn perthyn i'r Gymraeg."

Blodyn Nain Maesteg

Mae gan Sioned Ward atgofion melys o'i nain yn gwisgo broes gyda blodyn oren. Dyma'r eitem sy'n gwneud iddi wenu fwyaf wrth feddwl am ei nain:

"Un o Faesteg yn wreiddiol oedd Nain. Fe wnaeth hi symud i'r gogledd yn ei hugeiniau cynnar a phriodi. Fe wnaeth i ddwyn y plant i gyd i fyny yn Gymry Cymraeg ac roedd hi'n deallt yr iaith yn iawn.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broes blodyn yn cael ei gadw'n saff yn ei focs gwreiddiol

"Ond fe aeth hi'n gwbwl fyddar yn ei chwedegau cynnar felly fe wnaeth hi droi nôl i'r Saesneg gan bod yn haws iddi ei ddeall wrth ddarllen ein gwefysau yn siarad â hi. Os oedd llawer i'w ddweud yna rhaid oedd ysgrifennu popeth lawr ar bapur, a hithau wedyn yn bloeddio'n nôl ateb heb syniad o lefel ei llais!

"Oedd Nain o hyd â llyfr ysgrifennu a phensil yn ei bag! Anrheg i Nain gan fy modryb (ei merch hi) oedd hwn yn wreiddiol. Ymfudodd hi i Kenya wedi iddi briodi yn y 70egau, a dychwelyd efo hwn ar un o'i thripiau nôl adref.

"Welish i Nain yn gwisgo'r broes am y tro cyntaf mewn priodas teuluol. Dwi'n cofio meddwl pa mor ffansi oedd o yn edrych arni hi o gysidro ei bod hi'n byw fel arfer mewn barclod! O'r pethau sydd gennyf fel cof amdani, yr eitem yma yw'r un sy'n gwneud i mi wenu fwyaf."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

"O'r pethau sydd gennyf fel cof amdani, yr eitem yma yw'r un sy'n gwneud i mi wenu fwyaf"

Llythyrau Nain

Byddai nain Siân Bevan yn ysgrifennu llythyrau ar ffurf cerddi, a phan aeth Siân a'i theulu i fyw i Texas yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, ysgrifennodd nain lythyr atyn nhw, yn eu rhybuddio i beidio ag anghofio eu Cymraeg..!

Eglura Siân: "Dwi wedi etifeddu casgliad o gerddi ddaru fy nain, Barbara Elizabeth Davies, eu sgwennu. Pan oeddan ni'n mynd drwy bethau fy mam, wedi iddi hi farw y llynedd, mi wnes i ddarganfod y casgliad yma o lythyrau ar ffurf cerddi gan fy nain.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Siân Bevan yn darllen llythyrau ei nain

"Dwi'n cofio nain yn iawn oherwydd roedd hi'n dod atom ni i fyw am ryw bedwar mis bob blwyddyn - dros y gaeaf rhan amlaf. Roedd hi'n gwisgo dillad porffor ac yn gwneud ei gwallt mewn byn.

"Mae un o'r cerddi yma wedi ei sgwennu i gofnodi'r achlusur pan aethon ni fel teulu i fyw i Texas yn yr Unol Daleithiau am gyfnod. Mae yna un darn yn y gerdd yn gwneud i mi wenu - y llinellau sy'n ein rhybuddio i beidio ag anghofio ein Cymraeg er y byddwn yn clywed yr holl Saesneg Americanaidd yn Texas."

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Un o gerddi Barbara Elizabeth Davies, nain Siân ar ffurf llythyr

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig