Cadair tad Parry-Williams Rhyd-ddu yn dod nôl i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r awdur ac ysgolhaig TH Parry-Williams yn falch bod cadair farddol o eiddo'r teulu wedi dychwelyd i Gymru wedi iddi fod yn Reading am yn agos i 100 mlynedd.
Mae'r gadair a enillwyd gan Henry Parry-Williams - tad TH Parry-Williams - yn 1897 yn Eisteddfod Gadeiriol Y Rhyl bellach yng nghartref ei or-wyres, y beirniad llenyddol Catrin Beard.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwin falch iawn i gael y gadair. Rown yn gwybod ei bod hi'n mynd i ddod yma i Drefach rhywdro.
"Roedd gan fy hen daid bedair cadair i gyd - a phedair wyres iddo a'u hetifeddodd."
Ychwanegodd Catrin Beard: "Roedd fy mam yn un o'r wyresau hynny - mae'r gadair honno gan fy chwaer a'r wyres arall oedd Anti Carys - oedd yn byw tan yn ddiweddar yn Reading.
"Wedi graddio aeth fy nain Eurwen - chwaer ieuengaf Yncl Tom [TH Parry-Williams] a fy nhaid Edgar Thomas i fyw i Reading wedi iddo fe gael ei benodi i swydd ddarlithio yn yr Adran Amaeth ac Economeg.
"Yn Reading felly y magwyd teulu mam yn Gymry gloyw a gan fy Anti Carys yr oedd y gadair sydd newid symud yn ôl."
'Mae gan fy mrawd ei gadair ei hun'
Dyw hi ddim yn gadair Eisteddfod Genedlaethol ond roedd Eisteddfod Gadeiriol Y Rhyl yn "semi-national", medd Ms Beard.
Roedd Henry Parry-Williams yn ysgol feistr yn Rhyd-ddu am dros 40 mlynedd a'i gyfraniad arbennig oedd sicrhau bod llenyddiaeth Gymraeg yn rhan o addysg y plant.
Yn Rhyd-ddu y cafodd TH Parry-Williams ei eni.
Bu Henry Parry-Williams hefyd yn athro Cymraeg ar ryw ddwsin o ysgolheigion Celtaidd cyfandir Ewrop a ddaeth i aros gyda'r teulu yn Nhŷ'r Ysgol i ymarfer Cymraeg cyfoes.
Ychwanegodd Ms Beard: "Penderfynwyd mai fi a fy chwaer oedd yn cael y cadeiriau gan fod gan fy mrawd Emyr ei gadair ei hun.
"Eisoes mae gen i ddresel Rhyd-ddu ac mae hi'n braf rŵan cael y gadair yn gwmni iddi.
"Dwi'm yn gweld cadair yn cyrraedd ein cartref ni fel arall.
"Mae'r gadair wedi'i gosod dan y grisiau yn wynebu'r drws ffrynt - lle da i eistedd i aros i bawb fod yn barod cyn mynd allan!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2017