Ymgeiswyr yn dwysáu eu hymdrech i ennill pleidleisiau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cyfrifFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i bob cyngor gyfri'r pleidleisiau ar y diwrnod canlynol, yn hytrach na thros nos, eleni

Ar ddechrau'r wythnos lawn olaf o ymgyrchu mae pleidiau gwleidyddol Cymru yn dwysáu eu hymdrechion i ennill pleidleisiau yn yr etholiadau lleol.

Bydd yna bleidleisio'n digwydd ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol ar 5 Mai gyda chyfanswm o 1,234 o gynghorwyr i gael eu hethol.

Am y tro cyntaf mewn etholiadau cyngor yng Nghymru mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidlais hefyd.

Bydd y cyfri'n digwydd ddiwrnod wedi'r etholiadau yn hytrach na dros nos.

Er i'r blaid golli dros 100 o seddi yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017, Llafur Cymru sydd â'r nifer fwyaf o gynghorwyr ar drothwy'r etholiadau diweddaraf ac mae ganddyn nhw reolaeth fwyafrifol ar saith awdurdod lleol.

Mae'r blaid, o dan arweinyddiaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gobeithio adeiladu ar ei pherfformiad cryf yn etholiad y Senedd y llynedd pan enillodd Llafur hanner y seddi ym Mae Caerdydd.

Llafur
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ymgyrch y Blaid Lafur Gymreig ei lansio yn Academi Steam Coleg Penybont ym Mhencoed

Gyda 10 diwrnod i fynd tan yr etholiadau, dywedodd Mr Drakeford: "Wrth i ni gyrraedd diwrnodau olaf yr ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol ry'n yn canolbwyntio ar faterion sy'n bwysig i bobl - costau byw a chreu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

"Byddwn yn siarad â phobl ar draws Cymru er mwyn ennill eu pleidlais. Ry'ch chi'n gwybod be chi'n ei gael gyda chynghorydd Llafur - mae ganddyn nhw werthoedd Cymreig clir ac fe fyddan nhw'n gweithio law yn llaw gyda Llywodraeth Cymru, ac ASau Llafur yn y Senedd ac yn San Steffan.

"Mae gwleidyddion Ceidwadol yn poeni fwy am achub safle ac enw da y Prif Weinidog, Boris Johnson, nag am helpu pobl gydag argyfwng costau byw.

"Mae Plaid Lafur Cymru yn canolbwyntio ar sicrhau cael cymaint o gynghorwyr Llafur â phosib er mwyn creu cymunedau cryfach a'n neges yw i chi roi eich pleidlais i gynghorwyr Llafur ar 5 Mai."

Y Ceidwadwyr Cymreig oedd yr enillwyr mawr yn 2017, gan gynyddu eu cynrychiolaeth ar fwy na hanner cynghorau Cymru a sicrhau mwyafrif yn Sir Fynwy.

Y llynedd enillodd y blaid ei nifer uchaf erioed o seddi'n y Senedd.

Ond daw'r etholiadau hyn ar adeg heriol i'r Torïaid gyda Boris Johnson yn parhau o dan bwysau'n sgil yr helynt dros dorri rheolau Covid yn Downing Street.

Ceidwadwyr
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r etholiadau hyn ar adeg heriol i'r Torïaid

"Gydag ond deg diwrnod i fynd, mae ymgeiswyr y Ceidwadwyr Cymreig yn brwydro'n galed i ennill pleidleisiau trigolion ar hyd a lled y wlad," meddai arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies.

"Mae gan ein hymgeiswyr y cynlluniau gorau ar gyfer eu hardaloedd eu hunain."

Ychwanegodd Mr Davies y byddai cynghorwyr Ceidwadol yn "adeiladu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn barod gan y Ceidwadwyr Cymreig mewn llywodraeth leol" ac y byddant yn dad-wneud y "difrod" a wnaed gan Lafur, Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol.

"Mae'r etholiadau yma'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn eich hardal leol, y pethau sy'n bwysig i chi, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun i sicrhau cymunedau sy'n fwy diogel a chryf."

Baner

Etholiadau Lleol 2022

Linebreak

Ar ôl cipio rhywfaint o seddi yn 2017, mae Plaid Cymru'n arwain pedwar cyngor ar hyn o bryd.

Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price a chefnogwyr yn ystod lansio'r ymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol

Ond yn dilyn canlyniadau siomedig i'r blaid fis Mai diwethaf daeth y Blaid yn drydydd yn etholiad y Senedd.

Ers hynny fodd bynnag, mae'r Blaid wedi dod i gytundeb cydweithio â Llafur ym Mae Caerdydd sydd wedi caniatáu iddi roi rhai o'i pholisïau ar waith, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd.

"Dros yr wythnosau diwethaf mae timau lleol Plaid Cymru wedi bod allan ddydd a nos mewn cymunedau ledled Cymru gydag un neges: mae pleidleisio dros Blaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth," meddai arweinydd y blaid Adam Price.

"Mae gan gynghorwyr Plaid Cymru hanes cryf o sefyll ochr yn ochr â'r bobl maen nhw'n eu cynrychioli - o redeg banciau bwyd i arwain y gwaith glanhau ar ôl llifogydd.

"A thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pedwar arweinydd cyngor Plaid Cymru a'u timau wedi mynd yr ail filltir i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn eu cymunedau trwy sicrhau bod plant yn gallu parhau i ddysgu, bod busnesau yn gallu parhau i fasnachu, a bod gwasanaethau allweddol fel casglu sbwriel yn parhau i weithredu."

Welsh Liberal Democrats signFfynhonnell y llun, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig dir yn 2017 ond roeddent yn falch o ddal eu gafael ar eu hunig sedd yn y Senedd fis Mai diwethaf.

"Mae'r etholiadau yma'n gyfle i anfon neges at gynghorau na allan nhw fforddio cymryd pobol yn ganiataol mwyach," meddai arweinydd y blaid, Jane Dodds.

"Ledled Cymru, rydyn ni'n darganfod nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu clywed.

"Rydyn ni'n mynd o ddrws i ddrws i glywed gwir bryderon pobl a gwneud eu blaenoriaethau yn flaenoriaethau i ni."

Pynciau cysylltiedig