Cwestiynau'n parhau wedi euogfarnau achos Logan Mwangi

  • Cyhoeddwyd
Pentwr o deganau er cof am Logan
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol yn parhau i osod teganau er cof am Logan ger y fan y cafwyd hyd i'w gorff

Ddiwrnod ar ôl i dri o bobl gael eu dyfarnu'n euog o lofruddio bachgen pump oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, parhau mae'r cwestiynau ynglŷn â'r achos.

Fe fydd ymchwiliad yn ystyried pa wersi sydd i'w dysgu ar ôl i lys gael mam Logan Mwangi, ei lystad John Cole, a llanc 14 oed yn euog o'i ladd.

Mae seicolegydd wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C y gall gweithwyr cymdeithasol gael eu camarwain i gredu nad yw plant mewn perygl, yn enwedig os ydyn nhw dan bwysau.

Nawr bod y rheithgor wedi rhoi eu dyfarniadau yn Llys y Goron Caerdydd, fe all BBC Cymru ddatgelu hanes Cole, 40, o ymddygiad hiliol.

Roedd wedi dweud wrth bobl ei fod yn gyn-aelod o'r SAS, ac roedd yn cymryd rhan mewn crefftau ymladd.

Ond yn ei ugeiniau roedd yn gysylltiedig â'r blaid wleidyddol ffasgaidd, y National Front, ac roedd yn hysbys bod ganddo ragfarnau hiliol iawn.

Roedd o'n honni ei fod wedi cefnu ar y fath ymddygiad, ond doedd hynny ddim yn wir yn ôl rhai pobl oedd yn ei adnabod.

Honnodd un ffrind ei fod yn defnyddio iaith hiliol tuag at ei lysfab - roedd Logan yn fachgen hil gymysg.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys sut y cafodd Logan ei gosbi yn ei gartref gan ei fam a'i lystad

Dywedodd rhai iddo ddweud wrthyn nhw nad oedd yn hoffi Logan, a'u bod wedi ei weld yn ei gam-drin yn gorfforol ac yn feddyliol.

Roedd yn cosbi Logan trwy ei orfodi i wneud press-ups, sefyll am gyfnodau hir mewn cornel, a bwyta grawnfwyd tra bod eraill yn bwyta pryd tec-a-wê o'i flaen.

Roedd gan John Cole record am gyfres o droseddau - dwyn, blacmel, rhoi pwysau ar dystion a thri euogfarn am wyrdroi cwrs cyfiawnder, yn ôl asiantaeth newyddion PA.

Roedd hefyd yn annog y llanc 14 oed i ymosod ar Logan gan ddefnyddio'r technegau roedd yntau wedi eu dysgu mewn gwersi crefftau ymladd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Angharad Williamson a John Cole yn y doc

Yn ôl asiantaeth newyddion PA, roedd mam Logan yn ferch i frocer stoc a gafodd ei magu yn Essex a'i haddysgu mewn ysgol gynradd breifat.

Ond roedd Angharad Williamson hefyd â record droseddol cyn iddi symud i Ben-y-bont ar Ogwr gyda'i mab bach yn 2019 a chwrdd â Cole mewn tafarn leol.

Cafodd ei chyhuddo o ddwyn ar ôl camddefnyddio cerdyn credyd ei mam.

Ar achlysur arall, fe wnaeth Williamson a'i chariad ar y pryd ddwyn car ei mam ac fe gafodd ei dedfrydu i wneud gwaith di-dâl cymunedol.

Roedd Cole mewn perthynas arall pan gyfarfu'r ddau a daeth Williamson yn feichiog.

Honnodd yn ystod yr achos bod eu perthynas wedi newid pan ailgysylltodd tad Logan â'i fab - bod Cole yn llawn cenfigen ac wedi atal Logan rhag gweld ei dad.

Honnodd hefyd wrth dditectifs wedi marwolaeth Logan ei bod yn ofn Cole oherwydd ei honiad am fod wedi bod gyda'r SAS.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan ei atal rhag gadael ei ystafell yn y dyddiau cyn ei farwolaeth wrth iddo wella ar ôl dal Covid

Beth bynnag y sefyllfa tu ôl i ddrysau caeëdig, fe fethodd gweithwyr cymdeithasol â gweld Logan wrth ymweld â'r fflat yn Sarn, gan ei fod yn hunan-ynysu yn ei ystafell wely ar ôl dal Covid.

Roedd Logan ar y Cofnod Diogelu Plant, ond fe gafodd ei dynnu oddi ar hwnnw fis cyn ei farwolaeth - cam sy'n awgrymu nad oedd lle i gredu erbyn hynny ei fod mewn perygl.

Ond roedd yr awdurdodau'n gwybod am hanes treisgar Cole, a phryderon yn ymwneud â'r llanc 14 oed.

Bydd Bwrdd Diogelwch Cwm Taf Morgannwg yn cynnal ymchwiliad a bydd y cynghorau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a'r Gwasanaeth Iechyd oll yn cyfrannu.

Argraffiadau gohebydd BBC Cymru, David Grundy o'r awyrgylch yn lleol ddiwrnod wedi'r euogfarnau

Yn sicr doedd neb yn dathlu yn Sarn heddiw ar ôl i Angharad Williamson, mam Logan, ei lystad John Cole, a'r llanc na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol eu cael yn euog ddoe o'i lofruddiaeth.

Roedd yna bobl yn dod i Barc Pandy heddiw - i ddod â rhagor o flodau, goleuo canhwyllau a gosod rhagor o deganau ar y safle sydd, ers mis Gorffennaf, wedi dod yn rhyw fath o gofeb i Logan.

Ond doedd neb eisiau siarad - roedden am gadw'n dawel, a chofio'r bachgen bach cariadus yr oedden nhw'n ei gofio cyn erchyllterau'r llynedd yn Llansantffraid Isaf.