Gobaith Archesgob am gael priodasau un rhyw o fewn 5 mlynedd
- Cyhoeddwyd
![Andrew John](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1434E/production/_124366728_andyjohn.jpg)
Fe gafodd y Gwir Barchedicaf Andrew John ei orseddu yn eglwys gadeiriol Sant Deiniol ym Mangor ddydd Sadwrn
Fe allai priodasau o'r un rhyw gael eu cynnal mewn eglwysi yng Nghymru ymhen pum mlynedd, yn ôl yr Archesgob newydd.
Cafodd y Gwir Barchedicaf Andrew John ei orseddu'n swyddogol fel Archesgob Cymru mewn seremoni yn Eglwys Gadeiriol Bangor brynhawn Sadwrn ar ôl iddo gael ei ethol ym mis Rhagfyr.
Yn ei anerchiad dywedodd ein bod yn wynebu heriau newydd a dyrys, gan gynnwys rhyfel Wcrain, costau byw cynyddol a newid hinsawdd - ond fod gan y byd y pŵer i greu dyfodol gwell.
Dri mis cyn iddo gael ei ethol, fe gytunodd yr Eglwys yng Nghymru i ganiatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig.
Roedd hynny'n gynnig arbrofol am bum mlynedd - ond unigolion yr eglwys sy'n penderfynu a ydyn nhw eisiau bendithio'r cyplau.
Wrth drafod priodasau un rhyw, dywedodd y Gwir Barchedicaf Andrew John wrth Newyddion S4C ei fod yn "groesawgar o'r newid" ac y dylai'r eglwys fod yn fwy cynhwysol.
"Mae'n rhaid i ni barchu'r ffaith oedd 'na bobl oedd yn erbyn," meddai.
"Ond wrth i ni dyfu yn ein ffydd ac yn ein cred dwi'n credu fe fyddwn ni'n gweld bod o'n dderbyniol ac yn normal i ni.
"Dwi'n credu bod o'n bwysig bod yr Eglwys yng Nghymru yn gynhwysfawr a bod 'na le i bawb fod yn rhan o'n bywyd ni.
"Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld faint o bobl sydd wedi derbyn y fath bendith. Dwi'n siŵr yn y dyfodol, byddwn yn edrych 'nôl ac yn gweld beth oedd y ffws."
'Edrych ymlaen at y drafodaeth'
Doedd y bleidlais ddim yn golygu y bydd cyplau o'r un rhyw yn cael priodi mewn eglwys.
Ond fe awgrymodd yr Archesgob newydd ei fod yn gobeithio gweld y fath newid yn digwydd o fewn ei gyfnod yn y rôl.
"Yn y dyfodol, mae'n rhaid cael y ddadl ac wrth gwrs… falle cyn pum mlynedd, byddwn yn cael y drafodaeth a dwi'n edrych ymlaen at y drafodaeth hefyd."
![priodas o'r un rhyw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/35C6/production/_124366731_98c49ed1-7be4-4079-9d86-96ad1fbcd9e5.jpg)
Nid yw priodasau o'r un rhyw yn cael eu caniatáu ar hyn o bryd gan yr Eglwys yn Lloegr na'r Alban.
Ond pleidleisiodd Eglwys Esgobol yr Alban i ganiatáu i barau hoyw briodi yn yr eglwys yn 2017, gan ei gwneud yr eglwys Gristnogol fawr gyntaf yn y DU i ganiatáu priodasau un rhyw.
'Radical, ond nid gwleidydd'
Mae'r Archesgob newydd hefyd wedi sôn wrth y BBC am ei barodrwydd i beidio eistedd 'nôl yn ei rôl ac i fod yn radical.
Daw hyn ar ôl i Archesgob yr Eglwys yn Lloegr, Justin Welby, alw polisi Llywodraeth y DU - a fydd yn weld ceiswyr lloches yn cael eu hanfon i Rwanda - yn "groes i natur Dduw".
"Mae'n rhaid i'r Eglwys yng Nghymru gyfrannu at y sgwrs," meddai'r Gwir Barchedicaf Andrew John.
"Nid ein pwrpas ni yw i fod yn wleidyddion - ond siarad am yr efengyl Iesu Grist ac effaith yr efengyl ar fywyd cyhoeddus.
"Dwi 'di bod yn groesawgar i bobl sydd 'di gofyn beth mae'r eglwys yn credu am y sefyllfa. Rwy'n meddwl bod 'na gyfle i ni ymateb.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar y dadlau wrth gwrs. Nid yw'n bosib i ddweud bod 'na'r un farn am annibyniaeth er enghraifft… ond gofyn i bobl beth ydy'r fath ddyfodol bydd yn plesio ac yn bendithio'r rhan fwya' o bobl yng Nghymru, a 'neud eu penderfyniad ar y sail yna."
'Angen cyfaddef i'n camgymeriadau'
![Yr Archesgob](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2163/production/_124374580_archbishopsermonatenthronement.jpg)
Cafodd y Gwir Barchedicaf Andrew John ei orseddu yn eglwys gadeiriol Sant Deiniol ym Mangor ddydd Sadwrn mewn seremoni oedd wedi ei harwain gan blant a phobl ifanc.
Siaradodd yr Archesgob am ddioddefaint pobl Wcráin yn ei anerchiad, gan gyfleu ei syndod fod Eglwys Uniongred Rwsia yn cefnogi ymosodiad Vladimir Putin.
Mae'r Eglwys yng Nghymru eisoes wedi pleidleisio i ymbellhau o bob eglwys Gristnogol sydd yn cefnogi'r trais yn erbyn Wcráin.
Dywedodd hefyd fod Archesgob Caergaint Justin Welby yn "llygaid ei le" yn ei feirniadaeth o bolisi llywodraeth y DU o anfon ceiswyr lloches i Rwanda.
Fe gyfeiriodd yr Archesgob newydd at y pandemig a'i effaith ar bobl Cymru, yr heriau sy'n wynebu'r GIG, a'r argyfwng costau byw.
![the archiepiscopal throne](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6F83/production/_124374582_newproject-2.png)
As he took the archiepiscopal throne, the new archbishop made an apology on behalf of the Church for its failings to protect abuse survivors
Ychwanegodd bod angen i'r Eglwys yng Nghymru wrando ar ei neges ei hun, a'i bod wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol - gan gynnwys ynghylch diogelu plant.
"Nid yw'n hanes ni ynghylch defnyddio a chamddefnyddio pŵer yn berffaith," meddai.
"Rydyn ni wedi gadael pobl i lawr. Pobl sydd wedi cael eu cam-drin, er enghraifft."
Dywedodd fod yr eglwys wedi methu a chyfaddef i'w methiannau, a'i bod nawr "yn ymddiheuro yn ddiffuant".
"Nid yr eglwys yw'r unig un sydd angen dysgu sut i ymddiheuro," meddai.
"Mae angen ffurfio ein bywyd gwleidyddol a diwylliannol cenedlaethol mewn ffordd sy'n annog hyder - fel ein bod yn cydnabod ein rhan ni pan fydd camgymeriadau'n digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021