Amheuaeth dros ddyfodol gemau pêl-droed Cymru ar S4C

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gemau Cymru yn cael eu darlledu ar wasanaeth ffrydio fydd yn lansio yn hwyrach eleni

Mae S4C wedi dweud eu bod yn "siomedig" gyda'r newyddion bod gwasanaeth ffrydio Viaplay wedi sicrhau'r hawliau i ddangos holl gemau rhyngwladol Cymru o 2024 ymlaen.

Mae'r cytundeb - rhwng y darlledwr a UEFA - yn cynnwys gemau rhagbrofol tîm y dynion ar gyfer Cwpan y Byd 2026, Euro 2028 a Chynghrair y Cenhedloedd 2024/25 a 2026/27.

Sky oedd prif ddarlledwr gemau byw Cymru ers 2004 ond mae S4C hefyd yn darlledu'r gemau yn fyw yn yr iaith Gymraeg am ddim ers 2017.

Mae marc cwestiwn bellach dros ddyfodol y gemau ar S4C wedi i Viaplay gadarnhau bwriad i ddarparu sylwebaeth iaith Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn "siomedig" â'r cyhoeddiad.

'Trafodaethau ar y gweill'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y cytundeb yn rhan o gyfrifoldebau UEFA i farchnata a gwerthu hawliau darlledu, gan sicrhau swm o arian i'r gymdeithas ei wario ar bob lefel o'r gêm yng Nghymru.

Mae disgwyl i Viaplay lansio yn y DU yn hwyrach eleni, a fydd ar gael dros y we yn ogystal â dyfeisiau megis Apple TV a Google Chromecast.

Mewn neges ar Twitter fore Mercher fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, bod "trafodaethau ar y gweill" ynglŷn â sylwebaeth Gymraeg.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Noel Mooney

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Noel Mooney

"Yn amlwg mae S4C yn siomedig gyda'r newyddion yma gan UEFA heddiw," meddai llefarydd.

"Mae S4C yn trafod gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn cadarnhau'r sefyllfa o ran sylwebaeth Gymraeg."