Gwaith clirio 'sylweddol' yn parhau wedi llifogydd difrifol Trefynwy

Gwaith clirio
  • Cyhoeddwyd

Mae angen amddiffyn cymuned Trefynwy yn y dyfodol wedi llifogydd difrifol yn yr ardal dros y penwythnos, medd y cyn-AS David TC Davies.

Mae aelod o deulu y gwleidydd yn byw ar un o'r strydoedd lle cafodd eiddo ei ddifrodi gan y llifogydd.

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd bod ei thŷ "wedi cael ei wagio mas gan y gwasanaeth tân" a'i bod wedi mynd i'r ysbyty.

"Mae hi'n iawn nawr ac yn aros gyda ni a gobeithio mynd adref heddiw nawr bod y dŵr wedi mynd.

"Mae'n ofnadwy, mae'n fy synnu achos ma' hwn wedi digwydd ddwywaith o'r blaen," meddai.

Er bod amddiffynfeydd llifogydd wedi eu hadeiladu, dywedodd: "Mae'n rhaid i ni ailedrych ar yr holl amddiffynfeydd yma a gweld be' sy'n bosib 'neud i amddiffyn y gymuned yn y dyfodol."

David TC Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David TC Davies fod angen "ailedrych ar yr holl amddifynfeydd"

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru archwilio sefyllfa'r ddwy afon, "ac os oes rhaid inni ailadeiladu'r amddiffynfeydd llifogydd i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd eto achos mae 'di dinistrio'r busnesau trwy'r dref".

Mae'r gymuned leol wedi codi £30,000 i geisio adfer y dref, sy'n "arbennig o dda ond a bod yn onest dyw e ddim mynd i fod yn ddigon pan chi'n gweld faint y difrod," meddai.

"Pan roeddwn i'n Aelod Seneddol o'n i'n rhoi pwysau ar CNC i sicrhau bo' nhw' n adeiladu amddiffynfeydd llifogydd yno a dyw hynny ddim wedi digwydd a bod yn onest.

"Mae rhaid nawr i bobl sylweddoli bod y gymuned yma angen protection yn y dyfodol."

Disgrifiad,

Gwaith clirio 'sylweddol' yn parhau wedi llifogydd difrifol Trefynwy

Mae'r gwaith clirio yn parhau ddydd Llun ar ôl i nifer o drigolion a busnesau gael eu heffeithio.

Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De "ddigwyddiad difrifol" yn yr ardal fore Sadwrn, gyda dwsinau o bobl yn cael eu hachub gan y criwiau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb dros y penwythnos ac yn dweud eu bod yn trafod â Chyngor Sir Fynwy y gefnogaeth bellach fydd ar gael.

Dywed Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru eu bod am "weithio'n agos iawn efo'r gymuned a phartneriaid eraill er mwyn gweld beth yn union ddigwyddodd ac os oes 'na rywbeth fedrwn ni i wneud i leihau'r risg".

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, ychwanegodd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod "amddiffynfeydd llifogydd yn yr ardal sy'n gwarchod y dref rhag llifogydd, ond be welsom ni oedd bod lefel yr afon wedi dod dros yr amddiffynfeydd sydd yna".

"Mae o'n andros o anodd i ddelio efo fo os ydi rhywun yn cael dŵr yn eu cartref neu eu busnes, a bydd y gwaith yna o adfer yr ardal yn cychwyn rŵan."

Ychwanegodd mai'r afon Mynwy oedd wedi ei tharo waethaf "a'i bod wedi cyrraedd ei "lefel uchaf erioed".

Dadansoddiad

Steffan Messenger, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Fe wnaeth mesurydd glaw yn y Mynyddoedd Du yng ngogledd Sir Fynwy gofnodi gwerth 119.6mm o law rhwng nos Iau a bore Sadwrn.

Mae hyn yn fwy o law na fyddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn mis cyfan.

Mae modd gweld yr effaith yn glir o astudio'r data ar lefelau'r afonydd lleol - gyda llif Afon Mynwy yn cyrraedd ei ucha' ar gofnod.

Wrth Borth Trefynwy, y bont enwog o'r cyfnod canoloesol fe gyrhaeddodd lefel y dŵr 6.658 metr erbyn 02.45 ddydd Sadwrn, gan basio y record flaenorol a osodwyd yn sgil Storm Dennis yn 2020.

Bryd hynny roedd yr amddiffynfeydd llifogydd, a godwyd ddegawdau yn ôl, yn ddigon i warchod canol y dref ei hun rhag difrod, er i lifogydd o'r Afon Gwy effeithio ardal Mayhill.

Mae 'na alwadau pellach i edrych eto ar yr amddiffynfeydd yn lleol.

Mae'r cyngor sir wedi bod yn ymgynghori ar ddiweddariad i'w strategaeth rheoli llifogydd yn ystod yr haf.

Menyw oedrannus, sy'n cerdded gyda ffrâm, yn cael cymorth i fynd trwy ddŵr llifogydd yn Nhrefynwy sydd chwarter ffordd i fyny eu coesau

Parhau i ddod i delerau â'r llifogydd a'r difrod yn ei sgil mae pobl yr ardal.

"Mae'n dipyn o sioc," meddai Adam Williams, athro yn Ysgol Gyfun Trefynwy, sy'n ymweld â stryd fawr y dref yn rheolaidd "i 'neud bach o siopa neu gael coffi ar ôl ysgol".

"I weld y dŵr, y difrod a phopeth yma, mae'n drist. Fi ffili credu'r peth."

Adam Williams ar Stryd Fawr Trefynwy wrth i'r gwaith clirio fynd ymlaen o'w gwmpas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen ymchwilio i achos y llifogydd er mwyn amddiffyn pobl ac adeiladau'r ardal yn y dyfodol, medd Adam Williams

Gan ddisgrifio'r "gymuned glos" sydd yn Nhrefynwy, ychwanegodd Mr Williams bod "pawb wedi dod at ei gilydd, mae pawb yn cyfrannu, mae pawb yn helpu" gyda'r gwaith clirio wedi i'r dŵr gilio.

"Yn amlwg ar hyn o bryd, bydd rhaid i bawb ailadeiladu, ond bydd rhaid i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac yn y blaen ymchwilio i weld yr hyn sydd 'di digwydd, ac hefyd sut mae amddiffyn ni tro nesa' achos mae popeth sydd 'di digwydd yn dipyn o beth."

Y Cynghorydd Tudor Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yna help yn y dyddiau nesaf gan dîm argyfwng y sir, medd y Cynghorydd Tudor Thomas

Fe fydd tîm argyfwng Cyngor Sir Fynwy yn gweithio "trwy'r wythnos hyn" i helpu pobl sydd wedi cael difrod, medd un o'r cynghorwyr sir, Tudor Thomas.

"Bydd pobol sydd wedi colli celfi a'r tai angen help," meddai, "a bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn helpu pobol sy' eisie eu diogelu. Bydd hwnna yn mynd ymlaen."

'Pobl yn anobeithio... mae 'na faich emosiynol'

Man arall lle mae pobl yn clirio ac yn cyfri'r gost yw pentref bach Ynysgynwraidd, tua chwe milltir o Drefynwy,

Mae'r pentref wedi dioddef llifogydd yn flynyddol yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn ôl y cynghorydd sir Ian Chandler, "roedd lefel y dŵr yr uchaf i ni ei weld" yn sgil Storm Claudia.

"Roedd llif y dŵr mor gryf aeth dros yr amddiffynfeydd llifogydd a tharo byrddau drosodd.

Neuadd bentref Ynysgynwraidd dan ddŵr wedi dilyw Storm ClaudiaFfynhonnell y llun, Ian Chandler
Disgrifiad o’r llun,

Mae neuadd bentref Ynysgynwraidd dan ddŵr unwaith yn rhagor

"Does ond 22 o dai yn y pentref. Mae rhai pobl yn derbyn bod e'n digwydd - mae eraill yn anobeithio gan ei bod yn ymddangos bod dim datrysiad.

"Nid dim ond baich ariannol yw e - mae yna faich emosiynol.

"Ry'n ni ond newydd adfer neuadd y pentref wedi'r llifogydd diwethaf a bydd yn rhaid i ni wneud y cyfan unwaith yn rhagor."

Pynciau cysylltiedig