Arestio tri yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 43 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i Heol Ddu ym mhentref Beddau ychydig cyn 03:00 ddydd Gwener mewn ymateb i adroddiadau bod dyn wedi cael anaf difrifol i'w ben.
Cafodd dyn 43 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a'r gred yw y bydd yr anafiadau yn rhai sy'n newid ei fywyd.
Mae tri dyn - 36, 40 a 43 oed - yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau am y tro medd y llu, sy'n pwysleisio na wnelo'r achos ddim â Chartref Gofal Llantrisant.
Mae'r heddlu'n gofyn am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 02:00 a 03:30 fore Gwener.