Llantrisant: Busnesau'n teimlo effaith system unffordd
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, yn poeni fod cyflwyno system unffordd dros dro yn mynd i rwystro pobl rhag ymweld â'r dref - a hynny ar ôl dwy flynedd anodd o ymdopi gydag effeithiau Covid.
Mae'r system wedi ei chyflwyno er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar wal yn stryd fawr y dref. Mae disgwyl i'r gwaith bara pedwar mis.
Mae'r gwaith yn golygu nad oes modd cyrraedd Llantrisant o gyfeiriad Tonysguboriau a bod rhaid mynd naill ai drwy bentref Beddau neu drwy barc busnes Llantrisant ac ar hyd y comin.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Dean Powell, rheolwr canolfan dreftadaeth Neuadd y Dref, ei fod yn poeni am amseriad y gwaith.
"Naethon ni agor ym mis Awst 2019 ac ymhen chwech mis oedd Covid wedi dod, so am ddwy flynedd 'ni 'di bod ynghau.
"Nawr 'ni wedi agor eto ac yn dechrau mynd 'nôl fel oedden ni, wrth gwrs mae hwn yn mynd i gael effaith ar faint o ymwelwyr byddwn ni'n gallu denu bob wythnos.
"Mae llefydd fel Llantrisant yn dibynnu lot ar ymwelwyr, a beth mae'r system yn 'neud yw helpu pobl i adael y dre', ond dyw e ddim yn annog pobl i ddod mewn. Falle dyle'r system fod y ffordd arall o gwmpas.
"Os yw pobl yn cael trafferth dod fewn, a fyddan nhw'n trafferthu dod 'nôl? Mae busnesau'n gweld effaith yn barod."
'Heb ystyried effaith y gwaith'
Yn eu plith mae Joy Saunders sy'n rhedeg gweithdy celf yng nghanolfan gelfyddydau'r Model yn y dref.
"Dyw hi ddim fel tasen nhw 'di meddwl am effaith y gwaith," meddai.
"Maen nhw just ishe bwrw ymlaen heb ystyried y canlyniadau."
Mae Sean Chick o gwmni Chick Leathers yn cytuno.
"Diwrnod o rybudd gaethon ni cyn bod y gwaith yn dechrau.
"Mae'r amser mae e'n mynd i gymryd yn mynd i gael effaith fawr achos dyw pobl ddim yn gwybod sut i gyrraedd atom ni. Sa'i 'di gweld neb ers dydd Mercher diwetha'."
Mae'r gwaith yn golygu newidiadau i drefniadau bysys lleol hefyd, gyda nifer yn poeni nad yw hi'n hawdd cyrraedd yn ôl ar ôl bod yn siopa yn Nhonysguboriau.
Bellach mae'n rhaid teithio i Beddau a newid bws.
Mae Connie Evans yn anfodlon: "Os y'ch chi'n mynd i siopa, chi ddim ishe gorfod aros o gwmpas am y bws nesa' a newid bws gyda llwyth o siopa yn eich dwylo."
'Mae'r wal yn beryglus'
Mae pobl leol yn derbyn bod rhaid gwneud y gwaith ar y wal, yn enwedig pobl fel Dewi Gregory sy'n byw gerllaw.
"Mae'r wal yna'n beryglus, oedd e'n mynd i gwympo a galle fe fod wedi lladd rhywun, felly mae'n well bod nhw'n trwsio fe.
"Maen nhw'n mynd i ail neud e yn yr un cerrig, mae'n mynd i edrych yn hardd iawn ac yn y cyfamser mae ychydig bach o dawelwch gyda ni sydd wrth gwrs yn beth da i fi, ond fi yn cydymdeimlo'n fawr iawn gyda'r busnesau yn y dre' sy'n diodde'."
Yn y cyfamser mae 'na bryder fod cyfeirio traffig dros y comin yn peryglu'r anifeiliaid sy'n pori yno.
Yn ôl Dean Powell, sy'n un o ryddfreinwyr y dref, mae'r system unffordd yn mynd i ddyblu nifer y ceir sy'n gyrru dros y comin.
"Ry' ni wedi bod yn trio lleihau traffig ar y comin ers blynyddoedd. Ni wedi colli 56 o anifeiliaid dros yr ugain mlynedd diwetha," meddai.
Wrth ymateb i'r pryderon mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud bod rhaid iddyn nhw weithio ar y wal fesul rhan, fel arall fe fydden nhw wedi gorfod dymchwel y wal ac o bosib cau'r ffordd yn llwyr.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi ystyried diogelwch cerddwyr a gwasanaethau fel bysys ysgol wrth benderfynu ar gyfeiriad y traffig, a bod swyddogion ar gael i helpu busnesau gorau fedran nhw.
Yn dilyn adborth yn lleol maen nhw'n ystyried cyflwyno gwasanaeth bws uniongyrchol i ddychwelyd o ardal siopa Tonysguboriau i Lantrisant.
Doedd dim modd osgoi gwneud y gwaith - ond mae busnesau Llantrisant yn mynnu na ddylai hynny fod yn rhwystr iddyn nhw wedi dwy flynedd anodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2021