'Rhowch £100 i bob oedolyn yng Nghymru i siopa'n lleol'
- Cyhoeddwyd
Dylai pob oedolyn yng Nghymru gael talebau gwerth £100 i wario'n lleol, medd Consortiwm Manwerthu Cymru.
Gallai nifer o fanwerthwyr wynebu trafferthion yn sgil cyfyngiadau Covid, medd y pennaeth Sara Jones.
Er bod y consortiwm yn croesawu na chyflwynwyd cyfyngiadau Covid cyn y Nadolig, dywed Ms Jones y dylai'r cynllun o roi talebau - tebyg i'r un yng Ngogledd Iwerddon - gael ei fabwysiadu yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru fod busnesau eisoes wedi derbyn £2.5bn mewn grantiau.
Mae Ms Jones yn croesawu bod trethi busnes yn gostwng 50% - cyhoeddiad a wnaed yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - ond mae am i'r llywodraeth fynd ymhellach.
'Cyfnod anodd'
"Mae nifer o fanwerthwyr ar y dibyn," meddai.
"Mae pethau wedi gwella'n ddiweddar ond yn amlwg mae'r amrywiolyn newydd wedi creu cryn ansicrwydd."
Mae disgwyl y bydd llai o bobl yn siopa ar Ddydd San Steffan eleni - fel arfer un o ddiwrnodau siopa prysuraf y flwyddyn - gan y bydd y prif archfarchnadoedd ar gau.
Daw hyn wedi i undebau argymell i gyflogwyr beidio gofyn i staff weithio ar Ddydd Nadolig na San Steffan.
Wrth i gyfyngiadau pellach barhau'n bosibilrwydd, mae Ms Jones yn awgrymu y dylid cael cymorth mwy uniongyrchol fel grantiau wrth i fusnesau "wynebu cyfnod anodd iawn" ar ddechrau 2022.
Mae ffigyrau gan gwmni Springboard yn awgrymu bod siopwyr ar draws y DU wedi osgoi siopau'r stryd fawr a chanol dinasoedd ar y penwythnos olaf cyn y Nadolig.
Dywed Ms Jones bod rheolau Covid llymach yng Nghymru ynghyd â'r gorchymyn i bobl weithio o adref wedi cael "cryn effaith ar fusnesau".
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn deall yr heriau parhaol sy'n wynebu siopau'r stryd fawr yn sgil y pandemig.
"Ers dechrau'r pandemig ry'n wedi darparu mwy na £2.5bn o gefnogaeth i fusnesau yng Nghymru i'w helpu drwy gyfnodau anodd.
"Fel rhan o hyn does dim rhaid i fusnesau manwerthu, hamdden na lletygarwch dalu trethi tan Ebrill 2022.
"Yn y gyllideb ddiweddaraf, fe wnaeth y gweinidog cyllid gadarnhau ein bod yn darparu pecyn ychwanegol £116m o Ryddhad Ardrethi Annomestig i fusnesau sydd wedi'u taro waethaf - sef busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Fe fyddan nhw yn talu 50% yn llai o drethi yn 2022-23.
"Hefyd bydd £120m ar gael i glybiau nos a busnesau manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth a fydd yn cael eu heffeithio wrth i Gymru symud i Lefel Rhybudd Dau - gan felly ddyblu y pecyn o £60m a gyhoeddwyd wythnos ddiwethaf."
Dywedodd Angharad Williams o siop ddillad Lan Llofft, Llanbedr Pont Steffan nad oedd hi "yn gweld gwerth agor ar ddydd San Steffan" gan fod pobl yn poeni am Covid-19.
"Yn y gorffennol, ni wedi agor ddiwrnod ar ôl y Nadolig, o'n ni'n teimlo bod y demand na, o'n ni'n cael negeseuon ar Facebook, gofyn am sêls, gofyn pryd o'n ni'n agor," meddai.
"Eleni, ni wedi penderfynu agor cwpwl o ddiwrnodau'n hwyrach.
"Achos y cyfyngiadau a phobl yn poeni am lockdown a Covid, ni'n cael y teimlad bod pobl yn mynd i aros mewn.
"Ni yn poeni am gyfnod clo arall. Gyda stoc a phethe, ni'n gorfod meddwl chwe mis yn gynt.
"Er bo' ni'n gallu bod yn greadigol gyda'r cyfryngau cymdeithasol... mae'n teimlo fel bo rhywun arall yn rheoli fy musnes i."
'Angen denu pobl drwy gydol y flwyddyn'
Wrth ymateb i alwad Consortiwm Manwerthu Cymru i roi talebau i bobl siopa ar y Stryd Fawr, fe gwestiynodd Ms Williams pa mor "realistig" fyddai hynny.
"Wrth gwrs, byddai'r talebau yn ffordd dda o godi ymwybyddiaeth bod angen help ar siopau annibynnol, ond dw i ddim yn siŵr pa mor realistig yw hyn," meddai.
"Dw i'n teimlo mai strategaeth tymor byr fyddai hwnna.
"Be fydde wir yn helpu ni fyddai cael parcio am ddim mewn trefi sydd â siopau ar y stryd fawr drwy'r flwyddyn... neu ym mis Ionawr er enghraifft, nid jest adeg y Nadolig.
"Mae angen denu pobl drwy gydol y flwyddyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021