21 mlynedd o garchar am dreisio a cham-drin plant
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 60 oed o Geredigion wedi cael ei garcharu am 21 mlynedd ar ôl i lys ei gael yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Treisiodd Christopher Daniel James, o Frynheulwen, Blaenannerch, dri phlentyn dros gyfnod o 10 mlynedd, yn ogystal â'u cam-drin.
Roedd James, a gafodd ei arestio yn 2019, wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Ond yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe fe'i cafwyd yn euog o'r troseddau canlynol:
Tri chyhuddiad o ymosodiad anweddus;
Saith cyhuddiad o geisio treisio;
Pum cyhuddiad o dreisio;
Dau gyhuddiad o dreisio plentyn dan 13;
Un cyhuddiad o anwedduster gyda phlentyn;
Pedwar cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blentyn dan 13.
Rhoddodd y Ditectif Arolygydd Llyr Williams o Heddlu Dyfed-Powys ganmoliaeth i'r dioddefwyr yn yr achos am ddangos "cryfder a dewrder wrth ddod ymlaen, a drwy gydol yr ymchwiliad a'r achos llys y mae James wedi eu rhoi nhw drwyddo".
"Cyflawnodd James droseddau na ellir mo'u dychmygu yn erbyn plant ifanc felly rydym yn croesawu'r ddedfryd ac yn gobeithio y bydd yn rhybudd i unrhyw un arall a allai fod yn ystyried camdriniaeth debyg," meddai.
"Gobeithio bydd y ddedfryd yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt ac yn caniatáu iddyn nhw gymryd camau i symud ymlaen gyda'u bywydau."