Castell-nedd: Dyn 38 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 38 oed o lofruddiaeth wedi i gorff gael ei ddarganfod yng Nghastell-nedd.
Cafodd Timothy Dundon, 66, ei ddarganfod yn farw mewn tŷ ar Heol Catwg, Caewern, ddydd Mercher 27 Ebrill.
Mae Emmett Morrison o Gaewern wedi'i gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe fore Llun.
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
Mae teulu Dundon yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.