Drakeford: Angen craffu ledled y DU ar ryddhau i gartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd yn rhaid i benderfyniadau i anfon cleifion heb eu profi o ysbytai i gartrefi gofal ar ddechrau'r pandemig gael eu harchwilio gan ymchwiliad Covid y DU, meddai'r prif weinidog.

Mae'r Uchel Lys wedi dyfarnu bod y polisi ar ryddhau cleifion yn Lloegr yn anghyfreithlon gan iddo fethu ag ystyried y risg y gallai pobl heb symptomau drosglwyddo'r afiechyd.

Yn y Senedd, roedd Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau ynghylch pam y digwyddodd yr un peth yng Nghymru ym mis Mawrth ac Ebrill 2020.

Dywedodd Mr Drakeford fod dyfarniad y llys yn berthnasol i Loegr yn unig.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth barnwyr yn yr Uchel Lys i'r casgliad bod anfon cleifion yn Lloegr o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi yn anghyfreithlon

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod cleifion Cymru yn agored i fwy o risgiau oherwydd ei bod wedi cymryd pythefnos i Gymru "ddal i fyny" gyda phrofion ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno dros y ffin.

Dywedodd ei fod yn dangos yr angen am ymchwiliad penodol i Gymru i Covid - rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wrthod.

Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru'n dweud y dylai ei ymateb i'r coronafeirws gael ei ystyried gan ymchwiliad y DU gyfan, dan arweiniad y Farwnes Hallet.

Dywedodd Mr Davies: "Ai'r gwir, brif weinidog, yw eich bod yn atal yr ymchwiliad hwn rhag digwydd yma yng Nghymru oherwydd bod gennych ofn craffu, neu haerllugrwydd bod eich safbwynt yn gywir ac na ddylai ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru graffu arno?"

Atebodd Mr Drakeford: "Ni fyddai ymchwiliad annibynnol sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig fyth yn gallu gwneud synnwyr o union y math o benderfyniadau y mae wedi cyfeirio atynt."

'Cyd-destun y DU'

Dilynodd gweinidogion Cymru yr un cyngor â Llywodraeth y DU, ychwanegodd.

"Ni allwch ddeall y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru drwy ysgaru'r penderfyniadau hynny o gyd-destun y DU, cyngor y DU, lefel dealltwriaeth y DU ar y pryd a'r ffordd yr oedd hynny ar gael yma yng Nghymru."

Byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn Ymchwiliad Hallet i Covid "yn y ffordd fwyaf agored y gallwn".

Bydd angen iddo "archwilio y pwynt y daeth yn amlwg bod coronafeirws yn glefyd a allai gael ei ledaenu gan unigolion asymptomatig".

'Canlyniadau angheuol'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod y methiant i gydnabod y risg o drosglwyddo asymptomatig wedi cael "canlyniadau angheuol".

"Doedd gwyddoniaeth trosglwyddo asymptomatig ddim yn wahanol yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr."

Dywedodd y prif weinidog fod y "materion cwbl briodol hyn yn haeddu cael eu clywed yn y manylion y byddai eu hangen arnynt gyda'r archwiliad fforensig y bydd yr ymchwiliad yn ei ddarparu".

"Ac yna fe gawn ni weld a oedd y penderfyniadau a wnaethpwyd yma yng Nghymru gyda'r wybodaeth ar y pryd, gyda'r dystiolaeth a'r cyngor oedd ar gael i ni, a oedd y penderfyniadau hynny'n rhai y gellir eu hamddiffyn ai peidio."