Llacio rheolau Covid mewn ysgolion o ddydd Llun, 9 Mai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
masgiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y canllawiau i ysgolion yn "fwy cyson â gweddill y gymdeithas" o ddydd Llun

Ni fydd rheidrwydd i wisgo mygydau mewn ysgolion yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bydd y canllawiau i ysgolion yn "fwy cyson â gweddill y gymdeithas".

Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i ddisgyblion a staff wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol.

Ond o 9 Mai bydd mesurau Covid mewn ysgolion yn dilyn yr un drefn â busnesau a sefydliadau eraill.

Ychwanegodd Mr Miles y bydd ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn cael cyngor i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y mesurau yn parhau yn "addas a chymesur".

Bydd rhestr wirio hefyd yn cael ei darparu i ysgolion.

Mae'r gweinidog addysg wedi dweud hefyd gallai rhieni orfod talu dirwyon os yw eu plant yn absennol oherwydd triwantiaeth - yn ystod cyfnod Covid roedd yna anogaeth i gynghorau beidio dirwyo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i ddisgyblion a staff wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol

Ers mis Medi 2021 mae ysgolion wedi cyflwyno mesurau i atal lledaeniad Covid-19 - yn unol ag amgylchiadau lleol.

Roedd y mesurau hynny yn seiliedig ar fframwaith i ysgolion - ond bellach y cyngor fydd na fydd rhaid defnyddio'r fframwaith.

Newid o bandemig i endemig

Dywedodd Mr Miles: "Yn unol â'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad tair wythnos diwethaf, rydym wedi ysgrifennu at benaethiaid ysgolion heddiw i dynnu sylw at y newidiadau sydd ar ddod yn ein cyngor i ysgolion, sy'n adlewyrchu'r newid o bandemig i endemig.

"Drwy hyn, gwneir yn siŵr bod canllawiau i ysgolion yn fwy cyson â gweddill y gymdeithas.

"Mae pawb yn gwybod nad yw Covid-19 wedi diflannu.

"Mae'n hollbwysig o hyd ein bod yn lleihau lledaeniad y feirws lle y bo'n bosibl - gan gynnwys, er enghraifft, dilyn canllawiau o ran hunan-ynysu, a sicrhau bod lleoliadau addysg yn parhau i gynnal asesiadau risg cadarn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r cyfyngiadau eisoes wedi cael eu llacio yn Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon

Mae Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon yn Llanrhymni yng Nghaerdydd wedi llacio cyfyngiadau ar ôl gwyliau'r Pasg.

Am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd mae dosbarthiadau gwahanol yn cael gwasanaeth ar y cyd yn y neuadd a mwy o gymysgu bellach ar yr iard.

'Gyda'n gilydd o'r diwedd'

"Roedd e'n grêt i weld y plant gyda'i gilydd yn y neuadd yn gwrando, yn canu a chymuned yr ysgol gyda'i gilydd o'r diwedd," meddai'r pennaeth Rhian Lundrigan.

Mae rhai cyfyngiadau ar gymysgu o hyd ond mae'r swigod llawer iawn yn fwy a thripiau preswyl a phrydau twym yn y ffreutur wedi ailddechrau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhian Lundrigan ei bod yn obeithiol am y cyfnod sydd i ddod

"Ni 'nôl fwy nawr yn ysgol normal," meddai.

"Y gwahaniaeth mwyaf fi'n credu mae'r plant wedi dweud yw bod y staff ddim yn gwisgo masgs rhagor.

"Mae'r staff yn gallu gwenu a siarad yn fwy clir - roedd e'n galed i rai o'r plant ddeall ni gyda'r masgs arno."

Mae 'na gynlluniau am 'prom' i flwyddyn chwech a chroeso i rieni i'r mabolgampau eleni.

Yn ôl Ms Lundrigan mae'n obeithiol am y cyfnod i ddod, ond yn dweud y byddai efallai angen ystyried ailgyflwyno mesurau pe bai achosion Covid yn cynyddu eto o fewn yr ysgol neu'r gymuned.

Dirwyon

Dywedodd Mr Miles, y gallai rhieni gael dirwyon os nad yw eu plant yn mynd i'r ysgol a hynny er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb.

"Rwy'n bryderus iawn" fod disgyblion mewn rhai blynyddoedd yw fwy tebygol nag eraill i fod yn absennol o'r ysgol, meddai, ond ychwanegodd mai rhoi dirwy ddylai fod "y cam diwethaf".

Mae canran absenoldeb ysgolion Cymru wedi dyblu ers 2019.

Yn y flwyddyn academaidd 2018-19 roedd absenoldeb plant ysgolion cynradd yng Nghymru yn 5.4%, ac yn 6.2% mewn ysgolion uwchradd.

Mae'r ffigyrau diweddaraf hyd 1 Ebrill 2022 yn dangos bod y canrannau yn 11.9% ar gyfer ysgolion cynradd a 15.4% ar gyfer ysgolion uwchradd.

"Ry'n ni'n gofyn i awdurdodau lleol ddychwelyd i'r drefn a fodolai cyn Covid ar gyfer rhoi dirwyon," ychwanegodd Mr Miles.