Ai carthion yw'r gyfrinach i leddfu llygrwyr carbon?

  • Cyhoeddwyd
Tata Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi yng ngweithfeydd Tata ym Mhort Talbot, ond lleihau faint o CO2 sy'n cael ei ryddhau yw'r nod

Mae carthion yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael ag allyriadau un o lygrwyr mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae nwyon o ffwrnesi Tata Steel ym Mhort Talbot yn cael eu trin gan ficrobau bychain fel rhan o brosiect Prifysgol De Cymru, mewn ymgais i helpu'r broblem fyd eang o newid hinsawdd.

Mae'r nwyon sy'n cael eu cynhyrchu yn cael eu troi i fod yn asetau (acetates) neu finegr, a all wedyn gael eu defnyddio at ddibenion eraill.

Yn ôl ymchwilwyr, fe all y broses hefyd gael ei defnyddio ar gyfer gwaredu carbon deuocsid sy'n cael ei ryddhau gan ddiwydiannau gwahanol.

Gobaith am beilot llwyddiannus

Tata yw un o allyrwyr mwyaf o garbon deuocsid yn y DU, er i'r cwmni gymryd camau i leihau ei effaith ar y blaned.

Mae'r carbon deuocsid sy'n deillio o'r ffwrnais ym Mhort Talbot yn sylweddol.

Ond mae'r cwmni bellach yn helpu i ariannu'r peilot ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae microbau wedi bodoli ar ein planed yn bell cyn i ni fod yma," meddai Dr Rhiannon Chalmers-Brown

Dr Rhiannon Chalmers-Brown oedd sylfaenydd y prosiect yn labordai'r brifysgol, ond mae hi bellach yn gweithio ar y peilot oddi fewn y gwaith dur.

Mae nifer o bibellau mawr yn cludo nwyon o'r ffwrnes i wahanol rannau o'r ffatri, ond mae un biben fach yn arallgyfeirio peth o'r nwyon i fan arall ble mae'r profion yn cymryd lle.

Esboniodd Dr Chalmers-Brown sut mae'r nwyon, carbon deuocsid a charbon monocsid o'r ffwrnes yn "bwydo ein microbau".

Mae'r nwyon yn mynd fewn i adweithydd metel, a dyna lle maent yn cymysgu gyda microbau byw o'r slwtsh neu'r carthion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae peth o'r nwyon yn cael eu hailgyfeirio ar gyfer defnydd y cynllun peilot

"Darnau bach o facteria sy'n nofio o gwmpas ein hadweithydd ydyn nhw, ac maen nhw'n bwyta'r nwyon ac yn cynhyrchu'r asid asetyn," meddai.

Mae asetyn yn cael ei ddefnyddio mewn sawl cynnyrch gwahanol gan gynnwys paent, bwyd yn ogystal â rhoi haen o liw ar ddur yng ngwaith Tata yn Shotton.

"Mae microbau wedi bodoli ar ein planed yn bell cyn i ni fod yma," meddai Dr Chalmers-Brown.

"Mae microbau eisoes wedi gallu cyflawni'r hyn, ond nawr rydyn ni'n defnyddio nhw i wneud y gwaith yma yn y fath ffordd."

Toriad o 30%

"Yn y pendraw rydyn ni'n defnyddio cymaint o nwy ag y gallwn ni ac mae'r nwy na allwn ni ei ddefnyddio yn cael ei fflachio i'r atmosffer," meddai Martin Brunnock o gwmni Tata.

"Mae gan y cynllun yma'r potensial i greu gwerth o'r CO2 hwnnw, a gellid ei ddefnyddio i greu cynhyrchion eraill."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata eisiau lleihau faint o CO2 sy'n cael ei ollwng i'r atmosffer

Torri ei allyriadau yw'r prif gymhelliant i ariannu'r cynllun peilot hwn, gan fod Tata Steel wedi ymrwymo i leihau faint o CO2 y mae'n ei ryddhau o 30% erbyn 2030.

Disgwylir i'r galw am ddur gynyddu wrth i weithfeydd ynni adnewyddadwy a niwclear newydd gael eu hadeiladu.

Ond mi all Tata ddefnyddio ffwrnesi trydan neu droi at hydrogen fel tanwydd.

Yn y cyfamser, gallai'r broses arloesol hon yng Nghymru fod yn rhan o'r ateb.

Pynciau cysylltiedig