Dyn gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Heol Catwg, CaewernFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Timothy Dundon, 66, ei ddarganfod yn farw mewn tŷ ar Heol Catwg

Mae dyn wedi ymddangos ger bron llys ddydd Mercher, ar gyhuddiad o lofruddio dyn 66 oed yng Nghastell-nedd.

Mae Emmett Morrison, 38, o Heol Catwg, Caewern, Castell-nedd, wedi ei gyhuddo o lofruddio Timothy Dundon.

Cafodd corff Mr Dundon ei ddarganfod mewn tŷ yn Heol Catwg ddydd Mercher, 27 Ebrill.

Mae Mr Morrison wedi ei gadw yn y ddalfa ac ymddangosodd gerbron Llys y Goron Abertawe trwy gyswllt fideo.

Roedd yn gwisgo siwmper lwyd, a chrys-t du, ac roedd tatŵ i'w weld ar ochr chwith ei wddf.

Cadarnhaodd ei enw ger bron y llys.

Bydd yn ymddangos eto ar 13 Mehefin, pan fydd disgwyl iddo gynnig ple i'r cyhuddiad.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod teulu Mr Dundon yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion teulu.