Caethwasiaeth fodern: Arestio dau ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Swyddogion GLAAFfynhonnell y llun, GLAA
Disgrifiad o’r llun,

Dywed swyddogion GLAA bod naw myfyriwr Indiaidd o bosib wedi cael eu hecsploetio

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yng Ngwynedd fel rhan o ymchwiliad i honiadau bod asiantaeth recriwtio'n cyflenwi myfyrwyr bregus i gartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Cafodd y ddau ddyn, 24 a 46 oed, eu harestio gan y GLAA (Gangmasters and Labour Abuse Authority) ym Mhwllheli ben bore Iau yn dilyn cyrchoedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r ddau yn cael eu holi yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â masnachu pobl a llafur gorfodol, wedi i'r GLAA nodi naw myfyriwr Indiaidd fel dioddefwyr posib fis Rhagfyr y llynedd.

Cafodd gŵr a gwraig, y ddau'n nyrsys cofrestredig sy'n rhedeg asiantaeth recriwtio, hefyd eu harestio yn eu cartref yn Abergele fis Rhagfyr ar amheuaeth o droseddau caethwasiaeth fodern, a'u rhyddhau dan ymchwiliad.

Daeth swyddogion o hyd i'r gweithwyr yn cysgu ar fatresi ar y llawr dan amodau cyfyng, oer ac aflan mewn dau gyfeiriad ym Mae Colwyn.

Ffynhonnell y llun, GLAA
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ystafelloedd ble roedd yr unigolion yn cysgu

Cafodd yr holl ddioddefwyr eu cludo i ganolfan leol ac mae sawl cam wedi eu cymryd i'w cefnogi a'u gwarchod, meddai'r GLAA.

Cafodd pum dioddefwr posib pellach, hefyd yn hanu o India ac yn meddu ar fisas myfyrwyr, eu canfod o fewn y gymuned ac mae hwythau hefyd yn derbyn cefnogaeth debyg.

Mae chwe chartref gofal wedi rhoi'r gorau ar ddefnyddio gweithwyr sy'n cael eu cyflenwi gan yr asiantaeth recriwtio.

Ymchwiliad cymhleth a sensitif

Fe aeth swyddogion y GLAA ati i ymchwilio ar ôl i rywrai ffonio llinell gymorth caethwasiaeth fodern i'w hysbysu fod gweithwyr yn dechrau eu shifftiau yn flinedig ac "yn drewi".

Roedd gweithwyr proffesiynol gofal cartref hefyd wedi codi pryderon ynghylch safon gofal staff yr asiantaeth i breswylwyr.

"Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth, sydd angen lefel arbennig o sensitifrwydd o ystyried y sector yr honnir i'r ecsbloetio hwn ddigwydd," meddai Uwch Swyddog Ymchwilio'r GLAA, Martin Plimmer.

"Wedi dweud hynny, ni wnawn oddef ecsbloetio gweithwyr bregus dan unrhyw amgylchiadau.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn parhau i fod yn ymwybodol o arwyddion ecsbloetio a dod â'u pryderon atom fel y gallwn ni weithredu, fel yr ydym wedi gwneud heddiw."