Marchnad newydd yng Nghasnewydd i achub y ddinas?
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd marchnad fictorianaidd Casnewydd yn achub canol y ddinas ers iddo agor ar ei newydd wedd.
Er bod siopau gweigion yn broblem mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled y wlad, mae'n gyfnod cyffrous yng Nghasnewydd.
Mae 'na fis bellach ers i'r farchnad ailagor yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae'r neuadd fwyd yn ganolbwynt i'r datblygiad sydd wedi costio tua £6m ac mae'n allweddol wrth ddenu cwsmeriaid hen a newydd i ganol y dref.
Un o'r busnesau sy'n elwa o adfywiad y farchnad yw stondin gwin Sara Hobday.
"Mae'n sicr yn denu pobl newydd bob wythnos," dywedodd.
"Mae'n atgoffa pobl fod Casnewydd yn ddinas bwysig a fi'n meddwl bod e'n dod ag arian nol fewn i ddinas sydd wedi cael ei hanwybyddu'n rhy hir erbyn hyn.
"Roedd pethau'n brysur iawn ar y dechrau, mae pethau wedi tawelu ond mae dal pobl newydd yn dod bob wythnos, dwi yn credu y gwneiff e bigo lan... mae pethau yn mynd yn dda."
'Llwyddo'
Mae Elin Cottrell yn fyfyriwr yn y ddinas sydd hefyd yn gweithio ar stondin Deli Bach yn y farchnad.
"Rwy'n astudio ym Mhrifysgol Casnewydd a doedd dim byd i ni wneud.
"Ar y penwythnos ro'n ni'n mynd i Gaerdydd ond pan ti yn y brifysgol ti eisiau bod yn dy ddinas dy hun a ffeindio rhywbeth i 'neud.
"Fi'n credu maen neis i gael rhywbeth fel hyn mewn dinas eitha' bach. Dwi yn meddwl bydd e'n llwyddo."
Mae Covid wedi bod yn ergyd drom i ganol trefi gyda mwy ohonom yn gweithio o adref ac yn siopa ar lein.
Ddechrau'r flwyddyn fe gyhoeddodd adroddiad gan Centre for Cities fod traean siopau Casnewydd yn wag.
Ond, yn ôl Cyngor Casnewydd, doedd y darlun ddim yn ddrwg i gyd. Maen nhw'n dweud eu bod wedi cynnwys siopau oedd yn cael eu hadnewyddu fel rhan o'u harolwg, er iddyn nhw gydnabod bod tua chwarter siopau'r ddinas yn wag.
Mae her costau byw yn siŵr o gael effaith pellach ond mae cynlluniau fel cynllun adfywio'r farchnad yn debyg o helpu Casnewydd, yn ôl Dr Robert Bowen o Brifysgol Abertawe.
Dywedodd bod y fenter yn hwb enfawr i fusnesau llai hefyd: "Mae busnesau bwyd a diod yn ffordd o ddenu pobl i mewn a wedyn mae e'n creu lleoliad newydd i bobl yn nghanol y ddinas ac maen nhw'n gallu gweld beth arall sydd yno hefyd felly maen hwb i siopau cyfagos hefyd.
"Mae cael stondin yn y farchnad yn rhoi cyfleoedd i fusnesau bach sefydlu eu hunain a gweithredu mewn ffordd mwy cynaliadwy.
"Mae'n anodd iawn cymryd uned ar y stryd fawr oherwydd maen nhw'n gorfod talu rhent a chyfraddau busnes ac ar hyn o bryd mae costau uchel o ran egni hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2020
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019