Yr economi: Effeithiau Covid-19 yn waeth na'r 1980au

  • Cyhoeddwyd
Y Farwnes Debbie Wilcox o Gasnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Farwnes Debbie Wilcox o Gasnewydd yn aelod o'r Blaid Lafur yn Nhŷ'r Arglwyddi

Bydd effaith y pandemig ar economi Cymru yn waeth o lawer na chau'r pyllau glo a gweithfeydd dur yn yr 1980au, medd y Farwnes Debbie Wilcox o Gasnewydd.

Yn yr 80au, mathau arbennig o swyddi a diwydiannau gafodd eu heffeithio, ond y tro hwn bydd yr argyfwng economaidd yn taro pawb yng Nghymru, meddai'r Farwnes, sy'n aelod o'r Blaid Lafur yn Nhŷ'r Arglwyddi.

"Fe ddechreues i gymryd rhan yn wleidyddol yn yr 80au," meddai wrth BBC Cymru.

"Roedd fy llystad yn golier ym mhwll Tŷ Mawr, ac roeddwn innau'n rhan o grŵp cefnogol merched Maerdy, a mawredd, roedden ni'n meddwl fod pethau'n ddrwg bryd hynny!

"Dwi'n cofio loes y cyfnod hwnnw ond mae hyn ar raddfa wahanol.

"Roedd yr 80au yn amser ofnadwy gyda chwalfa'r diwydiant glo a'r cymunedau glofaol yn y Cymoedd, a dydyn nhw ddim wir wedi dod dros hynny.

"Ond mae hyn [y pandemig] yn effeithio ar bawb. Does yna'r un swydd, yr un diwydiant na'r un ohonom yn eithriad, felly mae'n sicr y bydd ei effaith yn para'n hirach."

'Angen gweithio gyda'n gilydd'

Dywedodd ei bod yn hanfodol buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer pobl ifanc, a datblygu'r pecynnau cywir er mwyn eu helpu nhw i gael gwell dyfodol.

Pwysleisiodd hefyd ei bod yn bwysig i gymunedau gyd-dynnu.

"Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd, mae angen i ni weithio mewn partneriaeth achos mae gennym gyfrifoldeb dros ein gilydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwesty'r Waterloo yng Nghasnewydd wedi bod ynghau ers mis Mawrth

Gyferbyn â gatiau'r dociau yng Nghasnewydd mae Gwesty'r Waterloo.

Yn ei anterth, roedd y lle'n arfer bod yn llawn dop o weithwyr y dociau a'r gwaith dur cyfagos.

Ond mae'n ddarlun gwahanol iawn y dyddiau yma.

Prynodd Bob Evans y safle 14 mlynedd yn ôl a'i ddatblygu i fod yn fusnes llwyddiannus, gyda bistro a gwesty boutique. Ond ers mis Mawrth mae'r drysau wedi bod ar gau.

Caeodd Mr Evans y lle yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a ni wnaeth ailagor yn ystod yr haf am na fyddai hynny'n gwneud synnwyr o safbwynt busnes, meddai.

Nawr mae wedi penderfynu gwerthu'r lle.

Disgrifiad o’r llun,

Bob Evans tu ôl i'r bar yng Ngwesty'r Waterloo, Casnewydd

Sut mae'r argyfwng economaidd presennol yn cymharu efo cyfnodau o ddirwasgiad yn y gorffennol, felly?

"Hwn ydi'r gwaethaf, heb amheuaeth," meddai Mr Evans.

"Dydyn ni erioed wedi gorfod cau yn llwyr o'r blaen - mae'n drychineb, a fydd nifer o fusnesau ddim yn dod allan ohono."

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae diweithdra yng Nghymru wedi codi i 4.6% - ychydig yn is na chyfartaledd y DU, ond ers Chwefror mae 20,482 wedi gadael gwaith, ac nid yw hynny'n cynnwys gweithwyr hunan-gyflogedig.

Mae'r ffigyrau yn dangos fod diweithdra wedi codi rhwng Gorffennaf a Medi pan oedd busnesau wedi ailagor, y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn weithredol, a thwristiaid yn tyrru yma ar wyliau oherwydd cyfyngiadau ar fynd dramor.

Un rheswm posib am hyn yw mai dim ond nawr y mae diswyddiadau gafodd eu cyhoeddi'n gynharach yn cael eu gweithredu.

Ergyd ar ôl ergyd

Mae'r diwydiant awyrofod yn bwysig i Gymru, ond mae wedi dioddef ergyd drom ar ôl misoedd lle'r oedd awyrennau'n gorwedd yn segur, ac mae hediadau'n dal yn brin heddiw.

Roedd GE Aviation yn Nantgarw eisoes wedi derbyn diswyddiadau gwirfoddol ym mis Gorffennaf, pan gyhoeddwyd y byddai rhagor o swyddi'n mynd.

Rhwng y ddau, mae hynny'n 550 o swyddi ers dechrau'r pandemig, ond dim ond nawr mae'r ffigyrau hynny'n dechrau ymddangos yn yr ystadegau diweithdra.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyflogwyr yn disgwyl na fyddai'r cynllun ffyrlo yn parhau, meddai Jamie Jenkins

Dywedodd Jamie Jenkins, oedd yn arfer gofalu am ystadegau swyddi gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod cyflogwyr eisoes wedi cyhoeddi diswyddiadau am eu bod yn credu fod y cynllun ffyrlo am ddod i ben ddiwedd Hydref - cyn i Lywodraeth y DU benderfynu ei ymestyn.

"Gallai'r cynllun ffyrlo fod wedi cuddio'r gwir broblem ddiweithdra ry'n ni wedi'i gael yng Nghymru dros fisoedd yr haf," meddai.

"A gan fod hwnnw am ddod i ben ym mis Hydref yn wreiddiol, daeth y cyhoeddiad y byddai'n cael ei ymestyn yn rhy hwyr i nifer o bobl."