Cau Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon wedi 'gollyngiad cemegau'
- Cyhoeddwyd
Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon eu gyrru adref yn gynnar ddydd Llun yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â chemegau.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod potel o gemegyn wedi disgyn a malu yn stordy'r ysgol.
Noda'r datganiad bod yr adeilad wedi ei wagio a'r gwasanaethau brys wedi eu galw fel mesur rhagofalus.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc cyn 11:30 fore Llun yn dilyn adroddiadau o ollyngiad cemegau.
Ond yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, roedd staff wedi delio â'r cemegau cyn iddyn nhw gyrraedd.
Ychwanegodd y llefarydd ar ran y cyngor sir: "Mae rhan o adeilad yr ysgol yn parhau ar gau a bydd rhai disgyblion yn mynd adref yn gynnar heddiw gan nad ydi hi'n debygol y bydd modd defnyddio'r prif adeilad yn ystod y diwrnod ysgol.
"Rydym yn ddiolchgar i staff yr ysgol am eu gwaith i ddiogelu'r safle ac i'n partneriaid o'r gwasanaethau brys am eu cymorth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020