'Hen bryd nodi cyfraniad arweinydd cyntaf Merched Beca'
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n hen bryd codi cerflun o arweinydd cyntaf Merched Beca i nodi ei gyfraniad unigryw fel ysbrydoliaeth i'r gwrthryfel yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru.
Dyna farn awdur llyfr newydd ar Twm Carnabwth.
Fe fydd 'Ar drywydd Twm Carnabwth: Hanes Gwrthryfel Becca' yn cael ei lansio yng Nghaffi Beca, Efailwen, am 19:30 nos Wener.
Cyn hynny, mi fydd bwrdd gwybodaeth newydd yn cael ei ddatgelu tu allan i Fferm Glynsaithmaen, Mynachlog-ddu am 18:00.
Dyna ble y daeth ffermwyr tlawd y cylch ynghyd cyn penderfynu ymosod ar y tollborth yn Efailwen ar 13 Mai 1839, gyda Twm yn arweinydd.
Mae'r ysgubor ble y cyfarfu'r criw gwrthryfelgar i'w weld o hyd ar y fferm.
Roedd Twm, neu Thomas Rees, yn gymeriad lliwgar ac yn aelod o Gapel Bethel, Mynachlog-ddu.
Roedd yn adroddwr pwnc gwych, ond hefyd yn adnabyddus yn y cylch fel paffiwr peryglus yn rhai o'r ffeiriau lleol.
Bu'n yfwr trwm hefyd, cyn ymwrthod ag alcohol a throi'n ôl at y capel.
'Parodrwydd i arwain gwrthryfel'
Yn ôl Hefin Wyn, awdur y gyfrol, mae "llawer o ffeithiau newydd" wedi eu datgelu trwy gyfrwng y gwaith ymchwil.
Mae'r awdur yn gwrthod y syniad taw o lyfr Genesis y Beibl y daeth yr enw ar gyfer "Becca" a'i mintai.
Mae'n debyg y ceir tystiolaeth bendant mai cyfeirio at enw menyw leol, Rebecca Fawr, y mae'r enw Merched Beca.
Fe fenthycodd Twm ei dillad cyn arwain yr ymosodiad ar Efailwen.
Credir i Twm gael "magwraeth helbulus", ac mae'n debyg iddo orfod codi tŷ unnos ar dir corsiog ar gyrion Mynachlog-ddu tra'n ddyn ifanc iawn.
Yn ôl Hefin Wyn, fe ddylai pobl ardal y Preselau godi arian er mwyn creu cerflun ohono am ei "benderfyniad" a'i "barodrwydd i arwain y gwrthryfel".
"Roedd e'n barod i arwain y werin, ac i ymladd y tirfeddianwyr. Roedd e'n ceisio cael tegwch cymdeithasol, yn ceisio rhyddhau pobl o orthrwm," meddai.
'Fe oedd yn arwain y ffordd'
Mae'r awdur yn awgrymu y dylid ffurfio pwyllgor i drafod codi cerflun efydd mewn man canolog yn y fro, ble y magwyd Twm Carnabwth.
"Twm oedd y Beca cyntaf. Fe oedd yn arwain y ffordd. Fe gynheuodd y fflam."
Ar noswaith 13 Mai 1839, fe aeth criw o rai cannoedd o ddynion lleol, wedi eu gwisgo fel merched, i ymosod ar dollborth Efailwen oedd yn eiddo i gwmni Thomas Bullin.
Bu'n rhaid i frawd y perchennog, Benjamin, ffoi am ei fywyd o'r fan a'r lle.
Roedd hi'n gyfnod o dlodi enbyd, ac fe ddaeth y tollau a'r tollbyrth yn symbol o orthrwm.
Chwalwyd y tollborth yn Efailwen ar dri achlysur, cyn i'r helynt ledu i rannau eraill o Gymru.
Ym 1847, collodd Twm lygad tra'n ymladd mewn ffrwgwd yn nhafarn Stambar, Pentregalar.
Mae bedd Twm Carnabwth i'w weld ym mynwent Capel Bethel, Mynachlog-ddu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022