Rhwyg o fewn Cyngor Tref Rhuthun dros ddathliadau jiwbilî

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cymysg yw'r farn ymysg trigolion y dref, fel y clywodd ein gohebydd Llyr Edwards

Mae 'na rwyg wedi datblygu o fewn Cyngor Tref Rhuthun ynglŷn â chyfrannu arian cyhoeddus tuag at ddathliadau jiwbilî'r Frenhines yn y dref.

O chwe phleidlais i bump, cytunwyd y dylid gwario arian er mwyn nodi'r Jiwbilî Blatinwm.

Y cynllun yw i blannu coed rhosod mewn cartrefi gofal ac ysgolion i ddathlu'r achlysur.

Bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn cynnal dathliadau ddechrau Mehefin i nodi 70 mlynedd ers dechrau teyrnasiad y Frenhines Elizabeth.

Ond yn ôl rhai cynghorwyr yn Rhuthun, mae yna "ffyrdd gwell" o ddefnyddio arian y cyngor yn yr argyfwng costau byw presennol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ethan Jones, dylai'r arian gael ei wario ar bethau eraill gan fod y wlad yn wynebu argyfwng costau byw

Dyna yw dadl y Cynghorydd Ethan Jones: "Mae 'na gryn dipyn o drafodaeth wedi bod ar y mater gan bobl y dref a mae 'na deimladau cryfion ar y ddwy ochr," meddai.

"Be mae pobl wedi bod yn dweud wrtha' i ydy bod y jiwbilî yn symbol sy'n dathlu cyfoeth a braint ac ar y llaw arall mae o'n eu hatgoffa nhw bod nhw'n byw mewn tlodi ar yr un pryd.

"Does 'na neb yn dweud peidiwch â dathlu y jiwbilî - mae gan bawb yr hawl i ddathlu y jiwbilî os 'den nhw isio... jyst ai dyma'r defnydd gorau o arian cyhoeddus".

'Dod â phobl at ei gilydd'

Un sydd am weld y cyngor yn dathlu yw Geraint Woolford sy'n byw yn Rhuthun.

Yn gyn faer y dref, mae o'n gefnogwr brwd o'r teulu brenhinol ac yn arbennig felly y Frenhines gan deimlo ei bod wedi cyfrannu llawer.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn faer y dref, Geraint Woolford, yn dweud bod y jiwbilî yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd a dathlu

"Dw i'n meddwl ddyle bod y Cyngor Tref yn rhoi rhywbeth tuag at ddathlu'r jiwbilî i ddod â phobl y dref at ei gilydd," dywedodd.

"'Den ni wedi cael dros ddwy flynedd rŵan a phawb yn eistedd yn y tŷ ar eu pen eu hunain.

"Base' hyn yn siawns i gael pawb at ei gilydd i ddathlu peth pwysig iawn fel jiwbilî y Frenhines."

Doedd neb o Gyngor Tref Rhuthun am wneud cyfweliad ar y mater ond mae'n ymddangos eu bod am fwrw 'mlaen efo'r cynlluniau i ddathlu jiwbilî'r Frenhines.

Pynciau cysylltiedig