Y cerddor a'r actor Dyfrig Evans wedi marw yn 43 oed

  • Cyhoeddwyd
Dyfrig EvansFfynhonnell y llun, Dyfrig Evans

Mae'r actor a'r cerddor Dyfrig Evans wedi marw yn 43 oed.

Roedd yn adnabyddus am ei rannau actio yn nramâu Rownd a Rownd, Talcen Caled a Darren Drws Nesa.

Fel cerddor, roedd yn brif leisydd y band Topper, ac roedd nifer yn ei adnabod fel 'Dyfrig Topper'.

Mae wedi ei ddisgrifio fel "enaid hyfryd llawn talent, hwyl, brwdfrydedd ac egni positif".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan JigCal

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan JigCal

Roedd Dyfrig yn wreiddiol o Benygroes ac aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle.

Yn y 2000au cynnar symudodd i'r Alban ond am bum mlynedd cyn hynny bu'n chwarae'r cymeriad Arwel Jones - neu Ari Stiffs - yn y gyfres Rownd a Rownd.

Mewn cyfweliad i nodi penblwydd y gyfres yn 21, dywedodd fod cael rhan yn y gyfres wedi "gwireddu breuddwyd" iddo.

"Roedden ni, yr actorion ifanc, yn cael y profiad anhygoel 'ma o wneud rhywbeth roedden ni wrth ein bodd yn gwneud… ac yn fwy na hynny yn cael y pleser pur o gydweithio 'efo actorion profiadol fel Dewi Pws ac Ifan Huw Dafydd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dyfrig Evans yn chwarae rhan Ari Stiffs yn y gyfres Rownd a Rownd

Yn 2002 ymunodd â chast y rhaglen Talcen Caled fel y cymeriad Huw Williams. Roedd hefyd yn rhan o'r gyfres Emyn Roc a Rôl gan chwarae'r cymeriad Eryl, aelod o'r band ac un o'r prif gymeriadau.

Mae wedi ymddangos hefyd mewn cyfresi fel Tipyn o Stad, Gwlad yr Astra Gwyn a'r Gwyll.

Rhwng 2017 a 2018 bu'n portreadu Kevin mewn dwy gyfres o Darren Drws Nesa.

'Mi fydd y byd yn llwydach'

Dywedodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Roedd talent Dyfrig yn rhychwantu cymeriadau annwyl ar gyfer ein cynnwys plant a chymeriadau mwy brith ar gyfer cyfresi fel Talcen Caled.

"Hynny heb sôn am ei allu a'i gyfraniad di-gwestiwn fel cerddor.

"Bydd colled ar ei ôl ac mae ein cydymdeimlad gyda'i deulu a'i ffrindiau."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan ankst

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan ankst

Roedd hefyd yn gerddor o fri. Yn ei arddegau cynnar daeth yn aelod o fand Paladr gyda'i frawd Iwan Evans ac yn 1995 rhyddhawyd eu cân gyntaf, sef Dwi'm yn gwbod. Pam?

Erbyn 1996 roedd enw'r grŵp wedi newid i Topper. Ar ôl rhyddhau tair record hir daeth y grŵp i ben yn 2001.

Yn 2006 fe wnaeth Dyfrig Evans ryddhau albwm o'r enw Idiom, a hynny fel cerddor unigol, ac yn 2019 daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân LOL.

'Talent naturiol amlwg'

Gan ddisgrifio ei farwolaeth fel "colled enfawr i ni", diolchodd label recordiau JigCal "am y tiwns bytholwyrdd".

Roedd yn "enaid hyfryd llawn talent, hwyl, brwdfrydedd ac egni positif" meddai label Ankst, a "braint oedd cael ei adnabod".

Roedd yr actor, Emlyn Gomer Roberts, ymhlith nifer a fu'n gweithio gyda Dyfrig Topper ar brosiectau a dywedodd ei fod yn "actor naturiol greddfol, gydag amseru comedi tan gamp, a cherddor talentog. Ac andros o gwmni da dros beint". 

"Mi fydd y byd yn llwydach hebddat ti Dyfs - diolch am y cydweithio a'r cyfeillgarwch. Cwsg yn dawel 'rhen fêt."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Ywain Gwynedd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Ywain Gwynedd

Yn ôl pennaeth BBC Radio Cymru, Dafydd Meredydd, roedd Dyfrig yn "gymeriad enfawr" oedd "wastad yn barod gyda gwên a sgwrs egnïol".

"Ac roedd o'n trosglwyddo'r egni naturiol yna'n ddiymdrech i mewn i'w berfformiadau fel actor a hefyd fel cerddor."

Ychwanegodd: "Mae'r Sin Roc Gymraeg yn dlotach a distawach lle heddiw ac mi fydda i'n teimlo colli Dyfrig ar lefel bersonol a phroffesiynol. Ond un peth sy'n sicr yw y bydd ei gerddoriaeth a'i ysbryd yn byw ymlaen."

Dywedodd cerddor y Super Furry Animals, Gruff Rhys: "Newyddion trist ac ysgytwol - tonau melys Dyfrig, Topper a Paladr yn fythgofiadwy."

Dywedodd prif leisydd y band Candelas, Osian Huw Williams: "Diolch Dyfrig Topper, nes di'n ysbrydoli fi llwyth ag o ti'n ddiawl o actor.

"Meddwl am 'i deulu a'i ffrindiau agos i gyd."

Roedd ei "dalent naturiol yn amlwg" ers pan yn ifanc, meddai Rhian Cadwaladr, a fuodd yn actio ei fam yn y gyfres Rownd a Rownd.

Ychwanegodd ar Facebook: "Anodd credu na welai ei wên ddireidus a'i glywed o'n deud "haia Mam Arall" fyth eto. Cwsg yn dawel Dyfs bach."

Cafodd ei ddisgrifio fel "un o'r sêr gwib llachar yna fydd yn aros am byth" gan y cyflwynydd Aled Hughes.

Dywedodd y Parchedig Rhys Llwyd o Gaernarfon "bod llais Dyfrig a caneuon Topper yn rhan bwysig o soundtrack fy ieuenctid. Talent a chymeriad".

Mae'n gadael ei blant a'i wraig Elaine.

Pynciau cysylltiedig