Arestio dau ar amheuaeth o lofruddio menyw ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Clas Y Deri
Disgrifiad o’r llun,

Mae presenoldeb mawr gan yr heddlu ar Clas Y Deri yn Waunarlwydd ddydd Mawrth

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff menyw gael ei ganfod mewn pentref ar gyrion Abertawe.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi gwneud y darganfyddiad mewn cyfeiriad ar Clas Y Deri yn Waunarlwydd am 14:00 brynhawn Llun.

Mae'r corff eto i gael ei adnabod yn ffurfiol, ond dywedodd y llu eu bod yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae dau ddyn lleol, 42 a 67 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig