Llofruddiaeth Abertawe: Cyhoeddi enw menyw fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r fenyw a gafodd ei chanfod yn farw mewn tŷ ar gyrion Abertawe ddechrau'r wythnos.
Daeth y llu o hyd i gorff Kelly Randall, 45 oed, yng Nghlas y Deri, Waunarlwydd tua 14:00 brynhawn Llun.
Mae dyn 67 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â marwolaeth Ms Randall wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Mae dyn 42 oed wedi cael ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.
'Heb eglurhad'
Yn ôl Heddlu De Cymru mae teulu Ms Randall yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbennig.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Darren George: "Cafodd post mortem fforensig ei gynnal... ac mae achos marwolaeth Ms Randall heb eglurhad ar hyn o bryd ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
"O achos hyn, bydd profion ychwanegol yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u cymorth dros y dyddiau diwethaf wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022