Pryder fod tacsis anghyfreithlon yn gweithredu ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon fod tacsis "anghyfreithlon" yn gweithredu ym Mangor, gan roi bywydau cwsmeriaid mewn perygl a tharo pocedi cwmnïau tacsi trwyddedig.
Mae gyrwyr a chynghorydd sir wedi dweud wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fod tacsis heb drwydded wedi bod yn gweithredu yn y ddinas, yn enwedig gyda'r hwyr ger clwb nos Cube.
Dywedodd un gyrrwr tacsi ei bod hi'n ennill llawer llai oherwydd y tacsis anghyfreithlon, ond mai'r pryder mwyaf yw'r perygl i bobl sy'n cael eu cludo ynddynt.
Dywed Cyngor Gwynedd fod yr honiadau yn "fater o bryder mawr", gan annog y cyhoedd i adrodd enghreifftiau i wasanaeth trwyddedu'r cyngor.
'Hysbysebu ar Snapchat'
Dywedodd Heulwen Jones, 51, rheolwr Tacsi HJ yn y ddinas, fod ei chwmni yn ennill o leiaf £200 yn llai ar benwythnosau prysur oherwydd y broblem.
Ond ychwanegodd mai ei phryder mwyaf yw'r "risg", yn enwedig i bobl ifanc sydd ar nosweithiau allan yng nghanol Bangor.
"Mae wir yn broblem. Dwi 'di reportio'r peth i'r heddlu ond does 'na ddim wedi'i wneud am y peth hyd yma.
"Mae'n ymddangos mai pobl ifanc o Fangor ac Ynys Môn ydyn nhw gan fwyaf, yn bod yn dacsi ar gyfer pobl ifanc eraill sy'n dod o glybiau nos yn ardal Cube.
"Maen nhw'n drefnus, a hyd yn oed yn hysbysebu eu gwasanaeth ar Snapchat."
Ychwanegodd: "Y pryder i fi ydy eu bod ganddyn nhw ddim yr yswiriant cywir, a 'da ni'n gweld genod ifanc meddw yn mynd i mewn i'r ceir 'ma - dydych chi ddim yn gwybod pwy ydy'r gyrwyr.
"Fe fyddwn i'n erfyn ar rieni i annog eu plant i fynd adra mewn cerbyd trwyddedig.
"Rydyn ni'n ddiogel ac yn gyfreithlon, mae'n rhaid i ni gael prawf MOT ddwywaith y flwyddyn, tystysgrif DBS, yswiriant sy'n costio miloedd ac rydyn ni'n yrwyr diogel a phrofiadol."
'Perygl mewn sawl ffordd'
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Fernley, sy'n cynrychioli Dwyrain Bangor ar Gyngor Gwynedd, fod gyrwyr tacsi wedi cysylltu gydag ef yn mynegi pryderon.
"Mae sawl person wedi adrodd y peth. 'Da ni wedi adrodd y peth i'r heddlu, ac yn gobeithio trafod gyda'r arolygydd lleol yn fuan," meddai.
"Os ydy pobl yn mynd i mewn i dacsi sydd heb drwydded maen nhw'n rhoi eu hunain mewn perygl mewn sawl ffordd wahanol.
"Dydyn nhw ddim yn gwybod pwy ydy'r gyrrwr, pe bai damwain efallai na fyddai ganddyn nhw'r yswiriant cywir, ac mae o hefyd yn tynnu busnes i ffwrdd o gwmnïau tacsi lleol, trwyddedig."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae honiadau fod unigolion heb drwydded yn cynnig gwasanaeth tacsi mewn cerbydau sydd heb drwydded yn fater o bryder mawr.
"Ry'n ni'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am unrhyw unigolyn sy'n rhoi gwasanaeth tacsi anghyfreithlon i adrodd y mater i wasanaeth trwyddedu'r cyngor.
"Fe all gyrwyr tacsi anghyfreithlon fod yn unigolion peryglus, a does dim sicrwydd bod eu cerbyd yn ddiogel nac wedi'i yswirio."
Mae'r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol wedi gwneud cais am sylw gan Heddlu Gogledd Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017