Carcharu dyn yfodd 13 can o gwrw oriau cyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
A476Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A476 yn ardal Llannon

Roedd gyrrwr a achosodd wrthdrawiad difrifol â char arall oedd yn cael ei yrru gan fenyw feichiog, wedi yfed 13 can o lager cryf ychydig oriau cyn mynd tu ôl i'r llyw.

Cyfaddefodd Rhodri Rees, 36 oed o Landysul, ei fod wedi bod yn yfed tan oriau man y bore, cyn gyrru'r bore canlynol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A476 yn Llannon ger Llanelli, am 07:40 ar 11 Rhagfyr, 2020, pan oedd Mr Rees yn goddiweddyd car arall ar gornel.

Bu'n rhaid torri'r ddau yrrwr o'u ceir, cymaint oedd nerth y gwrthdrawiad.

Dal i ddioddef

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Diolch byth, ni chafodd y babi ei anafu ond dioddefodd ei fam anafiadau wnaeth newid ei bywyd.

"Cafodd nifer o lawdriniaethau i gywiro'r niwed, a bu'n methu â cherdded am flwyddyn ac mae'n dal i ddioddef effeithiau'r ddamwain hyd heddiw."

Ar ôl pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol, ymddangosodd Rhodri Rees yn Llys y Goron Abertawe ble cafodd ei garcharu am 18 mis am achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a naw mis, a bydd rhaid iddo gymryd prawf gyrru estynedig er mwyn cael ei drwydded yn ôl.

Dywedodd y Sarjant Nicholas Brookes o Heddlu Dyfed-Powys: "Roedd hwn yn achos difrifol a allai fod wedi troi allan yn llawer iawn gwaeth.

"Cyfaddefodd Rees ei fod wedi yfed llawer iawn o alcohol a chael ychydig o gwsg cyn mynd tu ôl i'r llyw. Roedd yn ffodus na chafodd neb ei ladd."

Pynciau cysylltiedig