Dyn wedi marw ar ôl cael ei frathu gan gi yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Swyddogion heddlu ar Stryt Holt, Wrecsam brynhawn Llun
Mae dyn 62 oed wedi marw ar ôl cael ei frathu gan gi mewn tŷ yn Wrecsam.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryt Holt am 11:44 wedi adroddiadau bod dyn yn cael ataliad ar y galon ar ôl cael ei frathu.
Bu farw'r dyn yn y tŷ, ac mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
Cafodd y ci ei ddifa gan filfeddyg, ac mae cŵn eraill oedd yn cael eu cadw yn y cartref wedi eu symud i genel am y tro.
Yn gynharach, dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon tri ambiwlans brys, dau ambiwlans ymateb cyflym ac ambiwlans awyr mewn ymateb i'r digwyddiad.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod gan yr heddlu.