Cyfnod 'heriol ofnadwy' i fusnesau lletygarwch yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Amlwch
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnesau yn y maes lletygarwch, fel Lastra yn Amlwch, yn dweud fod costau wedi cynyddu yn sylweddol

Mae costau cynyddol yn golygu y bydd rhai busnesau lletygarwch yn ei chael hi'n "anodd iawn i barhau yn dilyn y tymor gwyliau" yn ôl aelod o Senedd Cymru.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor mai cynnydd mewn Treth Ar Werth (TAW) i 20% oedd yr ergyd ddiweddaraf i sector sy'n dioddef cyfnod "anodd iawn".

Yn ôl perchennog gwesty ar Ynys Môn fe fyddai gostwng TAW yn helpu talu costau eraill fel staffio ac ynni.

Dywed y Trysorlys mai "mesur dros dro" oedd gostwng cyfradd TAW, ac mewn araith nos Fercher dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai'n torri trethi i fusnesau yn ei gyllideb yn yr hydref.

Dywedodd y byddai hyn fel rhan o fesurau ehangach i hybu'r economi.

Cododd TAW i 20% i'r diwydiant lletygarwch ym mis Ebrill. Cyn hynny roedd y dreth yn cyfateb i 12.5%, ar ôl cyfnod o fod mor isel â 5% ar ddechrau'r pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adrian Parry fod y sefyllfa yn un "heriol ofnadwy"

Yng ngwesty a bwyty Lastra yn Amlwch, mae Adrian Parry wedi gweld costau stoc a staffio yn cynyddu ers y llynedd.

"Mae'n heriol ofnadwy. Mae costau staff wedi mynd i fyny hefyd. Ydy, mae pob peth yn codi," meddai.

"Flwyddyn ddiwethaf, mi oedd Treth Ar Werth yn llai. Wedyn mi oedd busnesau yn gallu cymryd yr hit, mewn ffordd, gyda'r prisiau.

"Ond rŵan bod o wedi mynd i fyny i 20% mae rhaid meddwl wedyn am godi prisiau. Ac mae rhaid bod yn ofalus wrth wneud hynny."

'Buddsoddi mewn staff'

Tra bod ffactorau rhyngwladol yn dylanwadu ar chwyddiant, mae gan y Canghellor y pŵer i newid cyfraddau TAW.

Dywedodd Mr Parry byddai gostwng y dreth eto yn gwneud gwahaniaeth.

"Os ydy treth ar werth yn dod lawr, mae yna fwy wedyn o arian yn y busnes i fuddsoddi efo cael mwy o staff ag ati," meddai.

"Mi fysa fo yn dda i gael o i ddod 'nôl i lawr, ond dwi ddim yn gwybod os ddaw nhw â hi i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mabon ap Gwynfor fod nifer o fusnesau yn ei chael yn anodd iawn i barhau

Mae Aelod Senedd Dwyfor Meirionydd, Mabon ap Gwynfor, wedi ysgrifennu at y Canghellor yn galw arno i ostwng TAW, ymhlith newidiadau eraill i leihau costau byw.

Dywedodd yr AS Plaid Cymru: "Y gwir anffodus ydy bod y cynnydd yma, sydd yn anferthol i nifer fawr o fusnesau bach, yn mynd i wasgu yn galed iawn arnyn nhw.

"Mi fydd nifer ohonyn nhw yn gweld hi'n anodd iawn i barhau yn dilyn y tymor gwyliau yma."

Yn ei lythyr mae'n galw am ostyngiad TAW i faes lletygarwch, lleihau'r cap ar brisiau ynni a gwrthdroi penderfyniad i gynyddu cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gwaethygu ac yn gwaethygu bob dydd," meddai Franco Scuto

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae Franco Scuto, sydd wedi rhedeg bwytai Eidalaidd yn yr ardal ers 30 mlynedd, yn ei gweld hi'n sefyllfa anodd iawn i'w fusnes wrth i gostau gynyddu.

"Dwi ddim yn meddwl ymhell i'r dyfodol oherwydd os ydw i'n meddwl yn rhy bell ymlaen, yna dwi ddim yn meddwl bod unrhyw obaith," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n goroesi, felly dwi'n byw o ddydd i ddydd.

"Rydw i wedi bod ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ddeng mlynedd ar hugain. Mae gennyf gwsmeriaid gwych sydd wedi fy nghefnogi.

"Ond pa mor hir allwn ni gadw hyn i fynd? Dydw i ddim yn gwybod. Mae'n gwaethygu ac yn gwaethygu bob dydd."

Rheidrwydd i godi prisiau

Dywedodd Mr Scuto fod cost cynhwysion wedi ei orfodi i godi prisiau i gwsmeriaid yn Ristorante Il Vecchio yn y dref.

"Roedden ni'n arfer prynu olew coginio am £14.95. Heddiw mae wedi codi i £35. Ac aeth tomatos mewn tun o £11 i £22. Ac mae'n rhaid i chi edrych ar y costau staff hefyd."

Dywedodd nad oedd am "dorri ansawdd y bwyd", ac y byddai'n rhaid iddo gynyddu prisiau i gwsmeriaid o ganlyniad.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod Llywodraeth y DU wedi cefnogi'r sector lletygarwch drwy'r pandemig "gyda phecyn gwerth £400bn ar draws yr economi a achubodd miliynau o swyddi".

Bydd mesurau Datganiad y Gwanwyn, meddai, "yn torri trethi cannoedd ar filoedd o fusnesau" ac mae Llywodraeth Cymru'n derbyn £2.5bn y flwyddyn "i wario ar faterion datganoledig, gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnes".

Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn glir o'r dechrau mai cam dros dro oedd cyfradd TAW is ac mae'r briodol i'n cefnogaeth adlewyrchu'r ffaith bod yr economi wedi ailagor."

Pynciau cysylltiedig