Hedfan tri phlentyn i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad bws ysgol

  • Cyhoeddwyd
Y bws ysgol wedi'r gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim teithwyr ar y bws, medd yr heddlu

Mae pedwar plentyn a gyrrwr bws wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yng ngogledd Powys brynhawn Llun.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Lôn Yr Ysgol, wrth Lôn Y Neuadd yn Llanfair Caereinion tua 15:25 brynhawn Llun.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod tri o'r plant wedi eu hedfan i'r ysbyty, tra bod un plentyn ac oedolyn wedi eu cludo ar y ffyrdd.

Cafodd un plentyn arall driniaeth ar y safle, ond nid oedd angen mynd i'r ysbyty.

Yn ôl gohebydd BBC Cymru yn Llanfair Caereinion, plant o'r ysgol gynradd oedd yn cerdded ar y lôn ar y pryd.

Dywedodd yr heddlu: "Roedd bws ysgol a nifer o gerddwyr ifanc yn rhan o'r gwrthdrawiad.

"Doedd dim teithwyr ar y bws."

Disgrifiad o’r llun,

Y bws ysgol wedi'r gwrthdrawiad

Yn ôl gohebydd BBC Cymru, Craig Duggan yn Llanfair Caereinion, roedd y bws wedi dod i gasglu teithwyr o'r ysgol uwchradd.

Ond cyn i'r bws droi ar ben y bryn i faes parcio'r ysgol uwchradd, fe gollodd y gyrrwr reolaeth ar y bws gan rolio i lawr y bryn tuag at yr ysgol gynradd.

Roedd plant o'r ysgol gynradd yn cerdded ar y ffordd ar y pryd.

Bu Craig Duggan yn siarad â phobl leol a dywedodd fod y gymuned wedi eu hysgwyd.

Bydd Capel Moreia, Llanfair ar agor brynhawn dydd Mawrth i bobl sydd yn dymuno "myfyrio neu weddïo yn dawel".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw o gwmpas 15:25 brynhawn Llun

Mewn datganiad, fe ddywedodd y cynghorydd Gareth Jones sy'n cynrychioli'r ward ar Gyngor Sir Powys, fod y gymuned yn diolch am ymateb y gwasanaethau brys.

"Fel cymuned, ry'n ni mor ddiolchgar i'r gwasanaethau brys a atebodd mor gyflym a phroffesiynol.

"Ry'n ni bob amser yn ddyledus i'n staff ysgol gwych ac yn fwy gwerthfawrogol nag erioed ar ôl yr hyn a ddigwyddodd ddoe."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bws wedi ei symud o'r safle erbyn bore Mawrth

Erbyn bore Mawrth roedd y bws wedi ei symud o safle'r digwyddiad, ac roedd y ffordd wedi agor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys brynhawn Llun fod swyddogion o Wasanaeth Ysgol y cyngor yn y dref "i ddarparu cefnogaeth i'r ysgol uwchradd a'r ysgol gynradd" ac mae disgwyl iddyn nhw barhau i fod yno ddydd Mawrth.