Marwolaeth brathiad ci: 'Damwain drasig, nid ymosodiad'

  • Cyhoeddwyd
Keven JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Keven Jones yn 62 oed ac wedi mynd i Wrecsam i helpu gofalu am gŵn ei fab

Mae dynes o Wrecsam yn dweud ei bod yn byw "hunllef go iawn" wedi i dad ei chymar farw ar ôl cael ei frathu gan un o'u cŵn.

Bu farw Keven Jones, 62, mewn tŷ yn Stryt Holt y ddinas ddydd Llun ar ôl cael ataliad ar y galon yn fuan wedi'r brathiad.

Mae ei fab, Josh Jones, yn bridio math arbennig o gŵn mawr croesfrid Americanaidd, XL Bullys, sy'n gyfreithlon i'w perchnogi yn y DU.

Ond mae cymar Josh Jones, Chanel Fong, yn mynnu nad oedd y ci, a gafodd ei ddifa, wedi ymosod ar Keven Jones ac mai "damwain drasig" yw'r farwolaeth.

'Mae o wedi 'nghael i'

Yn ôl Ms Fong, roedd Keven Jones, oedd yn byw yng Nghaer, wedi mynd i'w chartref yn Stryt Holt i edrych ar ôl pum ci, gan gynnwys tri chi XL Bully.

Dywedodd wrthi bod un o'r cŵn gwrywaidd, Cookie, wedi brathu ei goes yng nghegin y tŷ wrth i Mr Jones geisio symud Cookie a chi arall tu allan.

"Wnes i glywed Kev yn dweud 'Cookie, cer o'na'. Ddudish i wrtho i fynd oddi arno, ac mi wnaeth - mae'n ufudd," dywedodd Ms Fong.

"Yna mi edrychodd [Mr Jones] i lawr a dweud 'mae o wedi 'nghael i'. Roedd ei goes yn gwaedu.

"Es i â fo i'r 'stafell fyw i orwedd ar y soffa. Roedd o'n welw, a dywedodd 'dwi'n mynd, Chanel'. Ddudish i 'na, dwyt ti ddim'."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryt Holt ond ofer oedd yr ymdrechion i achub bywyd Keven Jones

Ffoniodd Ms Fong y gwasanaethau brys a dilyn cyfarwyddiadau dros y ffôn i drin Mr Jones nes i'r parafeddygon gyrraedd.

Cafodd tri ambiwlans, cerbydau ymateb cyflym ac ambiwlans awyr eu hanfon ynghyd â swyddogion heddlu mewn ymateb i'r alwad frys tua 11.45 fore Llun, ond ofer oedd yr holl ymdrechion i achub bywyd Mr Jones a fu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Ms Fong bod swyddogion cŵn arbenigol wedi mynd i'r tŷ a thawelu Cookie yn yr ardd gefn cyn i filfeddyg ei ddifa.

Cafodd un o gŵn eraill y cwpl, Fire, sydd hefyd yn gi XL Bully, ei gludo o'r tŷ ar gyfer asesiad ond mae Ms Fong yn disgwyl y bydd Fire yn dychwelyd.

Ffynhonnell y llun, Chanel Fong
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cookie ei ddifa gan filfeddyg yn dilyn y brathiad i Keven Jones

"Mae cymaint o bobl wedi dweud ci mor ddof oedd Cookie," meddai. "Dydy Cookie ddim wedi ymosod ar Kev. Dim ymosodiad cas oedd o - damwain drasig oedd o."

Dywedodd Ms Fong bod Josh Jones yn bridio cŵn XL Bully ers rhyw chwe blynedd ac wedi magu Cookie ers yn gi bach.

Ei "freuddwyd", meddai, yw "gwella'r brîd", ac mae'r ddau'n teithio'r wlad gan fynychu sioeau bridio a sioeau cŵn.

Dywedodd bod Keven Jones yn "enaid rhyfeddol" ac yn ofalwr llawn amser i'w gymar, Gail.

"'Dan ni gyd wedi'n dryllio," meddai. "Roedd yn golygu gymaint i mi, mae Josh wedi colli ei dad, mae Gail wedi colli ei phartner. Roedd yn ewythr ac yn daid - yn enaid ffantastig."

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod yr ymchwiliad i'r achos yn parhau a bod swyddogion arbenigol mewn cysylltiad â theulu Keven Jones.

Pynciau cysylltiedig