Y radio, Cymru a Chymreictod
- Cyhoeddwyd
![Radioffôn Ediswan o 1925](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FFF1/production/_124912556_722c6a85-1248-4e61-a049-7fb44f20a847.jpg)
Radioffôn Ediswan o 1925
Wyddoch chi mai Cymry fu'n gyfrifol am rai o'r datblygiadau mwyaf yn hanes radio?
Y lle perffaith i ddysgu am hynny yw yn Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau yn nhref Dinbych a agorwyd yn 2008.
Gweledigaeth y diweddar David Evan Jones oedd ei sefydlu a gadawodd ei gasgliad o hen setiau radio i'r amgueddfa gan gynnwys radio o 1936 sy'n cydnabod Cymru yn hytrach na gorllewin Prydain ar y deialydd am y tro cyntaf.
Ar drothwy Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych mae Dyfrig Berry, un o ymddireidolwyr Gwefr Heb Wifrau, wedi tywys Cymru Fyw o amgylch rhai o drysorau'r amgueddfa.
David Evan Jones
Peiriannydd darlledu ar drosglwyddydd darlledu Moel y Parc yn Afonwen ger Dinbych oedd David Evan Jones a roedd wrth ei fodd yn adeiladu radios ac yn gwrando ar ddarllediadau ar draws y byd.
![David Evan Jones gyda'i gasgliad o setiau radio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1136F/production/_124911507_cb95855a-bdb1-4e66-96b0-28d1880d2d79.jpg)
David Evan Jones gyda'i gasgliad o setiau radio
Eglura Dyfrig: "Roedd David fel finna yn frodor o Lanrwst yn wreiddiol ag yn un o sylfaenwyr Canolfan Iaith Glwyd lle mae'r amgueddfa yn rhan ohoni.
"Roedd gynno fo gasgliad enfawr o hen setia radio a mi sefydlodd o ymddiriedolaeth i ofalu amdanyn nhw pan fydda fo ddim yma. Yn anffodus fuodd o farw o ganser 'chydig o wythnosau cyn i ni allu agor yn 2008 ond oleia' fod o'n gwybod fod y casgliad yn ddiogel at y dyfodol."
Degawdau o setiau radio...
Yn rhan o gasgliad David Evan Jones mae setiau radio o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen. Dyma gip ar rai ohonyn nhw...
![Gramoffôn o 1914](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/1087F/production/_124911776_345481df-f2d7-4829-b26e-a2497c83d65f.jpg)
Gramoffôn o 1914
![Derbynnydd radioffôn ac amp Cosmos o 1925. Wedi ei wneud gan Metropolitan Vickers, Manceinion](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2207/production/_124911780_f041094c-fbbe-4ea1-ae73-f045b6f5b1b9.jpg)
Derbynnydd radioffôn ac amp Cosmos o 1925. Wedi ei wneud gan Metropolitan Vickers, Manceinion
![Hen focsys falfiau radio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B1D1/production/_124912554_e43212ae-3eac-4e26-80f7-3da6d57c25fb.jpg)
Hen focsys falfiau radio
![Set radio Philips 834A Superinductance o 1934](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/BA5F/production/_124911774_7e0474cd-9eea-4381-9aa2-08b89dd1c3ca.jpg)
Set radio Philips 834A Superinductance o 1934
![Un o gasgliad o ffotograffau Gwefr Heb Wifrau. Nid dim ond pobl oedd yn mwynhau gwrando ar y radio...](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1569F/production/_124911778_6118630e-a5e2-4d05-afbc-0cf3ddc87dee.jpg)
Un o gasgliad o ffotograffau Gwefr Heb Wifrau. Nid dim ond pobl oedd yn mwynhau gwrando ar y radio...
![Set radio Dansette RT111 gyda chwech transistor a dau fand tonfeddi. Crewyd yn 1959; gyda phob degawd daeth setiau radio yn llai ac yn fwy soffistigedig](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1618F/production/_124911509_8c2b3216-cd09-4b24-91a6-aa31425dd663.jpg)
Set radio Dansette RT111 gyda chwech transistor a dau fand tonfeddi. Crëwyd yn 1959; gyda phob degawd daeth setiau radio yn llai ac yn fwy soffistigedig
![Radio o 1978; Ferguson Model 3188, pedwar band tonfeddi (Hir/ Canolig / Byr a FM). Gellir ei bweru gan drydan neu fatri](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/63B1/production/_124912552_65a29e68-2197-4a29-8d2c-22dfc25ae852.jpg)
Radio o 1978; Ferguson Model 3188, pedwar band tonfeddi (Hir/ Canolig / Byr a FM). Gellir ei bweru gan drydan neu fatri
Radio a hunaniaeth Gymreig
Roedd David o'r farn fod y radio wedi bod yn gyfrwng allweddol i sicrhau parhâd y cysyniad o Gymru fel cenedl.
Eglura Dyfrig: "Mae un o'r setia yma yn dangos y rhanbarth Gymreig ar y deial - jest dros hannar ffordd i fyny mae o'n dweud - Welsh Reg a ddaeth wedyn yn BBC Cymru.
"Roedd David yn credu bod hynny wedi bod yn bwysig iawn yn sicrhau a chryfhau ein hunaniaeth ni fel cenedl a nid dim ond yn rhan o Orllewin Prydain fel fyddai'r hen setiau radio yn awgrymu."
![Mae Welsh Reg wedi ei nodi ar ddeialydd y set radio yma o'r 1930au... allwch chi ei ffeindio?](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/452F/production/_124911771_c412ae85-a39d-4c1e-a6e9-4bce0e851d28.jpg)
Mae Welsh Reg wedi ei nodi ar ddeialydd y set radio yma o'r 1930au... allwch chi ei ffeindio?
Cyfraniad 'tad y meicroffon' David Edward Hughes
Mae cryn ddadlau ynglych lle y ganwyd David Edward Hughes, sef dyfeisiwr y teledeipiadur a'r meicroffon. Mae rhai'n honni iddo gael ei eni yn Llundain, ac awdurdodau eraill yn mynnu iddo gael ei eni yn Green y Ddwyryd, gerllaw Corwen.
![David Edward Hughes, 'tad' y meicroffon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/501F/production/_124911502_314118b9-c247-461c-a86b-acb3cf1a215e.jpg)
David Edward Hughes, 'tad' y meicroffon
Mab David Hughes, gynt o'r Bala oedd David, a roedd ei gyfraniad i ddatblygiad y radio yn arloesol yn ôl Dyfrig.
Meddai: "O ran cysylltiad Cymreig radio, cyfraniad David Edward Hughes sydd bwysicaf i fi achos mae'n debyg ei fod o 'di darganfod tonfeydd radio cyn Hertz.
"Hertz sy'n cael ei gydnabod am drosglwyddo a derbyn tonfeydd radio am y tro cyntaf ond yn sicr, roedd David Edward Hughes o Gorwen wedi gweld fod 'na rwbath yn bodoli ac wedi cyflwyno'r wybodaeth i wybodusion cyn Hertz.
"Yn anffodus chath o ddim cweit ei dderbyn ar y pryd felly Hertz gath y clod."
Arbrawf Marconi ar draws Môr Hafren
![Yr arloeswr Guglielmo Marconi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EC5F/production/_124911506_2cb603d6-7b71-40d4-b117-8a7511e86f07.jpg)
Yr arloeswr Guglielmo Marconi
Yr Eidalwr Guglielmo Marconi oedd yn gyfrifol am y darllediad radio di-wifr cyntaf ar draws fôr agored, ac fe gynhaliodd yr arbrawf cyntaf dyngedfennol yng Nghymru.
Yn 1897 darlledodd y neges enwog "Are you ready?" mewn côd Mors 6km ar draws Môr Hafren o Ynys Echni i Drwyn Larnog, ger Penarth ym Mro Morgannwg.
![Cafodd y neges gyntaf ei hanfon o Ynys Echni ar draws Sianel Bryste i Drwyn Larnog yn 1897](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/772F/production/_124911503_85a9f647-7e93-4f63-9621-aafa22552a3f.jpg)
Cafodd y neges gyntaf ei hanfon o Ynys Echni ar draws Sianel Bryste i Drwyn Larnog yn 1897
"Dim Cymro oedd o ond wnaeth o lawar o'i waith yng Nghymru a falla eich bod chi wedi gweld olion trosglwyddydd Cefn Du yn nhopia Waunfawr. Hwn oedd gorsaf tonfeddau hir di-wefr cynta' Prydain," meddai Dyfrig.
"Mi gafodd Cymru ddylanwad mawr ar y byd radio, ac mae'n werth dod yma i Gwefr Heb Wifra, mae gan bawb atgofion melys ac o dderbyn newyddion mawr ar y radio, ac mae'r arddangosfa yn mynd â chi ar hyd llwybra llawn atgofion, heb os."
![Olion gorsaf radio Marconi ar lethrau Cefn Du](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14E11/production/_124912558_9b02fa26-2e72-4f70-acd5-a2daaf50c8e4.jpg)
Olion gorsaf radio Marconi ar lethrau Cefn Du
Hefyd o ddiddordeb: