'Bydd llais Marconi’n mynd am byth'
- Cyhoeddwyd
"Yn y gofod pell bydd llais Marconi'n mynd am byth" - dyna linell o gytgan sengl newydd y grŵp Mellt.
Ond wyddoch chi pwy ydy Marconi? A pham fod un o grwpiau mwyaf Cymru wedi ysgrifennu cân amdano?
'Cyd-ddigwyddiad hapus'
Yr Eidalwr Guglielmo Marconi oedd yn gyfrifol am y darllediad radio di-wifr cyntaf ar draws fôr agored, ac fe gynhaliodd yr arbrawf cyntaf dyngedfennol yng Nghymru.
Yn 1897 darlledodd y neges enwog "Are you ready?" mewn côd Mors 6km ar draws Môr Hafren o Ynys Echni i Drwyn Larnog, ger Penarth ym Mro Morgannwg.
"Doedd e heb ddechre' fel cân amdano fe o gwbl. Doeddwn i ddim rili yn gwybod am Marconi," meddai gitarydd a lleisydd y band Glyn James.
"Ma' ganddo fe gysylltiad â Chymru. Roedd hwnna'n gyd-ddigwyddiad hapus. Roedd y transmission gyntaf wnaeth e rhwng Caerdydd a Bryste. Roedd meddwl am Marconi o gwmpas fan hyn yn yr ardal yma yn reit cŵl.
"Doedd yr Eidal ddim yn rhoi cefnogaeth iddo fe wneud yr holl ymchwil mewn i radiowaves yno. Roedden nhw yn meddwl ei fod yn rhyw cracpot inventor.
"Oni'n hoffi'r syniad 'ma o lais Marconi'n mynd am byth mas i'r gofod a meddwl who knows pwy sydd wedi clywed e?"
'Ydych chi'n fy nghlywed i?'
'O dan y straen, ti'n cario mlaen, o dan y paent ti'n gweld y graen' ydy llinell gyntaf y gytgan.
"Roedd y pethau hyn i gyd yn bethau oedd yn digwydd ar y ddaear," esbonia Glyn.
"Ond nes i feddwl... be' am beth sydd yn mynd mlaen mas tu fas lan yn y gofod? O'n i'n meddwl am y syniad o radiowaves yn gadael y ddaear a neb yn pigo nhw lan. Wedyn nes i feddwl pryd oedd y llais cyntaf i adael y ddaear? Marconi?
"Roeddwn yn licio'r syniad 'ma o ystyried aliens yn y gofod a sut maen nhw'n gweld ni. Nhw'n pigo lan ar y signals radio 'ma yn dod lan o'r ddaear ac yn clywed ein planed swnllyd."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yr arbrawf
Profodd yr arbrawf gan Marconi yn un arwyddocaol iawn. Am flynyddoedd lu, gweithiodd cyfathrebu trwy gyfrwng côd Morse yn dda, drwy ddefnyddio polion telegraff, ond roedd angen rhywbeth oedd yn gallu croesi'r moroedd mawr.
Llwyddodd Marconi i greu gwyrthiau drwy ddod a syniad dau beiriannydd arall ynghyd.
William Preece oedd prif beiriannydd y Swyddfa Bost, ac roedd yn cynnal ei waith arbrofi ym Mhenarth. Llwyddodd i greu ffenomenon o'r enw anwythiad cilyddol (mutual induction) gyda dau ddarn o weiren gopr, a oedd yn profi fod tonnau electromagnetig yn gallu 'teithio' drwy'r aer, yn hytrach na thrwy weiren.
Tua'r un pryd, roedd yr Almaenwr, Heinrich Hertz, wedi profi bodolaeth ymbelydredd electromagnetig.
"Roeddwn yn licio meddwl am bryd wnaeth Marconi ddechrau dod lan â'r radio a radiowaves. Doedd neb rili yn gwybod y ffordd roedden nhw yn gweithio," meddai Glyn.
Roedd hyn yn cynnwys Marconi ei hun i raddau. Ni weithiodd yr arbrawf i ddechrau ac roedd o'n poeni fod ei ddamcaniaeth a'i ymchwil yn anghywir.
Ond wedi deuddydd o arbrofi cafodd ysbrydoliaeth a dechrau cerdded ar hyd y traeth ar Drwyn Larnog. Drwy wneud hynny, ymestynnodd y weiren oedd i dderbyn y signal, a heb yn wybod iddo, achosodd hyn i'r amledd (frequency) ostwng, a olygodd fod y neges yn gallu cael ei darlledu o'r ynys ar draws y dŵr.
'Macaroni'
Y dechnoleg yma oedd sail nifer o dechnolegau radio a chyfathrebu cymhlethach. Yn 1909 enillodd Wobr Nobel mewn Ffiseg ar y cyd â Karl Braun am eu cyfraniadau i ddatblygiad telegraffiaeth di-wifr.
Yn ddiweddarach, ar 22 Medi 1918, anfonodd Marconi neges yn llawer pellach, a chwaraeodd Gymru ran fawr yn y darllediad yma hefyd.
Cafodd neges mewn côd Morse ei hanfon o lethrau Cefn Du, ger Waunfawr, yn Eryri i Wahroonga, Awstralia at Brif Weinidog Awstralia, sef William Morris Hughes, brodor o Landudno. Pwrpas y neges oedd i ofyn iddo anfon mwy o filwyr ANZAC i Ewrop.
"Ni wedi cael lot yn gofyn pam ydych chi wedi sgwennu cân am macaroni?" meddai Glyn. "Ond na, ma' fe ynglyn â person, y dyn wnaeth inventio'r radio..."
"Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd"
Mae llinell arall yn y gân, "iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd," yn adrodd hanes syfrdanol, arallfydol arall.
"Ma' hwnna yn ymwneud â phan wnaethon nhw anfon mas rhywbeth i'r gofod pell ac ynddo fe oedd vinyl gyda phob mathau o ieithoedd arno fe," meddai Glyn.
Cafodd y record aur ei anfon i'r gofod gan yr athro Frederick M. Ahl o Brifysgol Cornell gyda llong ofod oedd yn rhan o'r Voyager Space Mission. Does neb yn gwybod pam yn union cafodd y Gymraeg ei ddewis arni.
"Y syniad oedd os byddai rhywun byth yn ffeindio hwn ac yn darganfod ffordd o chwarae fe nôl bydden nhw'n gallu chwarae e nôl a chlywed e.
"Y frawddeg Gymraeg sydd ar y record yw 'iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd'.
"Ma' hwnna yn dal yn teithio trwy'r gofod nawr...."
Hefyd o ddiddordeb: