Lisa Gwilym: Steil ar set

  • Cyhoeddwyd
Lisa GwilymFfynhonnell y llun, Lisa Gwilym

Patrymau geometrig, lliwiau llachar a chlustdlysau trawiadol - mae steil y gyflwynwraig Lisa Gwilym ar FFIT Cymru wedi bod yn un o nodweddion amlycaf y gyfres.

Wrth i'r gyfres ddiweddaraf o FFIT Cymru ddirwyn i ben, bu Lisa'n siarad gyda Cymru Fyw ynglŷn a sut mae hi'n mynd ati i ddewis beth i'w wisgo ar y set.

A dyma ni wedi cyrraedd diwedd cyfres arall o'r gyfres ysbrydoledig FFIT Cymru, ac eto eleni, dwi 'di cael y fraint o ddilyn taith trawsnewid pump Arweinydd dewr o bob cwr o Gymru, sydd 'di bod yn dilyn cynllun iach ein tri arbenigwr.

Mae'n gyfres sydd gobeithio yn cael dylanwad cadarnhaol ar y gynulleidfa - dwi'n sicr yn dysgu rhywbeth newydd ac yn elwa o'r profiad bob blwyddyn.

Steilydd

Rhywbeth arall sydd o ddiddordeb i ambell un ydi'r dillad a fy steil ar set. Dwi 'di cael y pleser o gydweithio efo'r steilydd Jo Letton ar bob un o gyfresi FFIT Cymru, a dwi wrth fy modd efo'r hyn dwi'n ei wisgo yn wythnosol.

Ffynhonnell y llun, Lisa Gwilym

Does dim yn well ar ddiwrnod ffilmio na chael dy goluro a dy wisgo, a dwi mor ddiolchgar i Jo, Lisa, Bev, Alma a Ffion am neud i mi deimlo'n dda ar set ac ar sgrîn. Mae o'n bendant yn un o perks mwya'r job!

Felly beth ydi'r broses? Mae Jo a fi yn dod at ein gilydd i drafod syniadau ac i drio lot fawr iawn o ddillad. Mi fydd hi wedi prynu llwyth o eitemau amrywiol, a 'da ni wedyn yn trio cyfuniadau gwahanol ac yn gweld be' sy'n gweithio a be' 'da ni'n licio.

Ffynhonnell y llun, Lisa Gwilym

'Mwy o liw'

Dwi mor lwcus bod Jo yn ffrind ac yn fy 'nabod i'n dda iawn erbyn hyn a mae'n gwbod be' dwi'n hoffi. Ond mae hi hefyd yn wych am fy ngwthio i drio eitemau gwahanol a dwi 'di dysgu gymaint ganddi.

Dwi'n bendant yn gwisgo mwy o liw ers gweithio efo Jo, ac yn fwy mentrus a hyderus yn fy newisiadau oherwydd fy mod yn teimlo'n saff yn ei dwylo hi.

Mae'r ddwy ohonom yn hoff o batrymau geometrig, ac wedi dotio ar y siaced a'r flows biws oedd gen i un wythnos, a'r sgert gwta oren wythnos arall.

Ffynhonnell y llun, Lisa Gwilym

Mae lliwiau cryf yn bwysig, a'r got werdd a'r flows felyn yn ffefrynnau eraill! Mae siap a cut dilledyn yn bwysig, heb anghofio'r accessories sy'n gorffen y wisg, a dwi'n byw ac yn bod mewn clustdlysau lliwgar.

Ffynhonnell y llun, Lisa Gwilym

Ailgylchu

Mae ailgylchu dillad yn bwysig iawn dyddiau yma, a'r ddwy ohonom yn awyddus iawn i fod yn wyrdd. Felly 'da ni'n bendant yn gwneud defnydd o'r hyn sydd gen i yn fy wardrobe, ac yn ailddefnyddio dillad o gyfresi blaenorol.

O ddydd i ddydd, dwi'n dueddol o fyw mewn skinny jeans, top a trainers, a mae'r biker jacket lledr du yn un eitem na fedrai ddychmygu bod hebddo. Dwi'n dal i gael dyddiau pan dwi'n teimlo bod gen i ddim byd i wisgo, sydd tu hwnt i ddealltwriaeth y gŵr!

Ond dwi'n gobeithio fy mod i erbyn hyn yn gwybod be' sy'n gweithio ac yn gweddu fy nghorff, a'r peth pwysig i mi bob tro ydi fy mod yn teimlo fel Lisa!

Gwyliwch y gyfres ddiweddaraf o FFIT Cymru ar iplayer.

Pynciau cysylltiedig