Llofruddiaeth Casnewydd: Teyrnged i fenyw 'hyfryd'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes o Gasnewydd gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref wedi rhoi teyrnged iddi.
Roedd Mari O'Flynn o bentref Betws yn 79 oed, ac mae ymchwiliad llofruddiaeth bellach ar y gweill.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r cyfeiriad ar Leach Road yn ardal Betws ychydig cyn 14:00 ddydd Mawrth.
Dywedon nhw eu bod wedi mynychu gyda pharafeddygon ond bod y fenyw wedi cael ei chyhoeddi'n farw.
Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 51 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
'Menyw gref, annibynnol'
"Roedd ein mam, mam-gu a chwaer hyfryd yn fenyw gref, annibynnol," meddai teulu Ms O'Flynn mewn datganiad.
"Mae ein calonnau wedi torri gan y ffordd greulon y cafodd ein mam ei chymryd oddi wrthym ni.
"Roedd ganddi gymaint i edrych ymlaen ato ac roedd hi'n mynd yn ôl i Wlad Groeg mewn pythefnos, lle treuliodd 10 mlynedd o'i bywyd yn byw gyda'n tad.
"Ni fyddem byth wedi dychmygu ein hunain yn y sefyllfa hon ac ni all geiriau ddisgrifio'r galar rydym yn ei brofi ar hyn o bryd.
"Ein unig gysur yw gwybod ei bod wedi cael ei huno unwaith eto gyda'i gŵr a'i ffrind gorau, y mae hi wedi ei golli cymaint.
"Fydd hi byth yn bosibl llenwi'r bwlch ar ei hôl a bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb, teulu a ffrindiau yn ddiwahân."
Mae'r dyn 51 oed yn parhau yn y ddalfa, a dywedod yr heddlu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022